Annwyl Riant/Gofalwr

Er mwyn cefnogi ein dull ysgol gyfan o ymdrin â lles emosiynol a meddyliol disgyblion, rydym yn cyflwyno polisi newydd ynghylch defnyddio dyfeisiau symudol yn yr ysgol. Mewn arolwg diweddar ledled y DU gan Parentkind, amlygwyd y pryderon canlynol ynghylch y defnydd o dechnoleg symudol gan blant: (Parent-poll-on-smartphones-March-2024.pdf (parentkind.org.uk)

  • Roedd rhieni’n teimlo bod nifer o risgiau posibl i ffonau clyfar, gyda 83% o rieni yn dweud eu bod yn teimlo y gallai ffonau clyfar fod yn niweidiol i bobl ifanc.
  • Roedd 9 o bob 10 rhiant (89%) yn poeni am y potensial ar gyfer bwlio a cham-drin ar-lein.
  • Roedd 87% yn pryderu y gallai eu plant gael mynediad at gynnwys niweidiol ar-lein
  • Ofnai 85% y gallai eu plant ddatblygu disgwyliadau afrealistig am ddelwedd y corff neu ffordd o fyw.
  • Roedd 69% o rieni yn teimlo y byddai cyfyngu mynediad plant at ffonau clyfar yn gwneud bywyd yn haws iddyn nhw. 

Gyda’r uchod mewn golwg, rydym wedi penderfynu gwahardd defnyddio ffonau symudol a dyfeisiau tra bod disgyblion yn yr ysgol. Rwyf wedi atodi copi o’r Polisi Ffonau Symudol newydd a fydd yn dod i rym ar 2 Medi 2024 i chi edrych arno ac wedi crynhoi’r prif newidiadau isod.

Bydd y Polisi Ffonau Symudol wedi’i ddiweddaru’n llawn ar gael ar y wefan yn fuan, ond mae’r manylion hanfodol cryno isod:

Blynyddoedd 7 – 11

  • Dylid diffodd ffonau symudol a dyfeisiau (gan gynnwys airpods a chlustffonau eraill) a’u rhoi o’r golwg mewn bag yn ystod pob gwers.
  • Dylid diffodd ffonau symudol a dyfeisiau (gan gynnwys airpods a chlustffonau eraill) a’u rhoi o’r golwg mewn bag wrth symud rhwng gwersi, yn ystod amseroedd egwyl ac yn ystod amser cinio.  
  • Dylid diffodd ffonau symudol a dyfeisiau (gan gynnwys airpods a chlustffonau eraill) a’u rhoi o’r golwg mewn bag wrth symud rhwng gwersi, yn ystod amseroedd egwyl ac yn ystod amser cinio.
  • • Nid yw clustffonau / buds clust i’w defnyddio na’u gweld mewn coridorau yn ystod gwersi, rhwng gwersi nac ar unrhyw adeg yn ystod y diwrnod ysgol.
  • Gall aelod o staff awdurdodi defnyddio ffonau symudol yn ystod tripiau ysgol, cystadlaethau chwaraeon a digwyddiadau. Os byddant yn gwneud hynny, bydd y cyfarwyddyd hwn yn glir ac yn eglur.

Blynyddoedd 12 a 13

  • Dylid diffodd ffonau symudol a’u rhoi o’r golwg yn eich bag yn ystod pob gwers.
  • Dylid diffodd ffonau symudol a’u rhoi o’r golwg yn eich bag wrth symud rhwng gwersi (e.e.ar y coridorau).
  • Caniateir defnyddio ffonau symudol yn yr ardaloedd dynodedig canlynol: Ystafell Waith y Chweched Dosbarth, ardal gymunedol y Chweched Dosbarth a’r gofod astudio Chweched Dosbarth.
  • Ni ddylid defnyddio clustffonau / buds clust yn ystod gwersi ac ni ddylent fod yn weladwy wrth gerdded o gwmpas yr ysgol (e.e. ar y coridorau)
  • Gellir defnyddio clustffonau/buds clust yn yr ardaloedd dynodedig a ragnodir uchod.

Gall fod amgylchiadau neu achosion eithriadol lle mae’r myfyrwyr angen mynediad dros dro neu barhaol i ffôn symudol neu ddyfais arall. Gall hyn gynnwys anghenion meddygol sylweddol gyda thystiolaeth o hynny, sy’n rhoi myfyriwr mewn perygl. Bydd unrhyw gais o’r fath yn cael ei ystyried yn unigol a rhaid iddo gael ei gyfeirio gan rieni/gofalwyr neu’r Arweinydd Cynnydd perthnasol i’r Pennaeth.

Os bydd salwch neu anaf, ni ddylai myfyrwyr ddefnyddio eu ffonau/dyfeisiau symudol i gysylltu â rhieni/gofalwyr yn uniongyrchol i wneud trefniadau casglu personol heb roi gwybod yn gyntaf i’r staff cymorth cyntaf neu fugeiliol. Dylai myfyrwyr fynd i’r dderbynfa neu ofyn am gymorth gan aelod o staff. Yn achos unrhyw argyfwng, gofynnir i rieni / gofalwyr gysylltu â’r ysgol yn gyntaf fel eu bod yn ymwybodol o unrhyw broblem bosibl ac yn gallu cefnogi’r myfyrwyr yn syth.

Protocol Sancsiynau Fesul Cam

Os yw ffôn symudol myfyriwr yn cael ei weld neu ei glywed, neu os oes gan fyfyriwr ei glustffonau/airpods allan neu ymlaen, bydd aelod o staff yn cymryd y ddyfais oddi arnyn nhw a’i gosod mewn ardal ddiogel a dynodedig yn yr ysgol. Bydd rhieni/gofalwyr yn derbyn e-bost i’w hysbysu ar bob achlysur a bydd hefyd yn cael ei gofnodi ar ClassCharts.

Trosedd 1af ac 2il 

  • Ar y tro cyntaf a’r ail, bydd y myfyriwr yn gallu casglu ei ffôn o’r ardal ddynodedig ar ddiwedd y diwrnod ysgol (3:10 pm).

3ydd trosedd 

  • Ar y trydydd achlysur, dim ond y rhiant/gofalwr fydd yn gallu casglu’r ffôn o’r ysgol. Gall unrhyw dorri pellach o’r Cod Ymddygiad Ffonau Symudol / Dyfais arwain at waharddiad fel nad yw’r myfyriwr yn gallu dod â ffôn symudol / dyfais i’r ysgol neu at sancsiynau mwy difrifol yn unol â chod disgyblaeth yr ysgol.

Diolch o flaen llaw am eich cefnogaeth ynghylch gweithredu’r polisi hwn. Cymerwch amser i drafod y newidiadau hyn gyda’ch plentyn a sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol o’r rheolau newydd.

Credwn y bydd y newidiadau hyn yn cefnogi’n bositif lles emosiynol a meddyliol disgyblion, yn cynyddu eu canlyniadau dysgu ac yn lleihau aflonyddwch diangen i bawb.

Yn gywir

Dewi Owen

Pennaeth


Dear Parent/Carer

To support our whole school approach to pupil’s emotional and mental wellbeing we are introducing a new policy regarding the use of mobile devices in school. In a recent UK wide survey by Parentkind, the following concerns were highlighted regarding the use of mobile technology by children: (Parent-poll-on-smartphones-March-2024.pdf (parentkind.org.uk))

  • Parents felt that smartphones came with a number of potential risks, with 83% of parents said that they felt smartphones are potentially harmful to young people.
  • 9 in 10 parents (89%) were concerned about the potential for online bullying and abuse.
  • 87% were concerned that their children might access harmful content online
  • 85% that their children might develop unrealistic expectations about body image or lifestyle.
  • 69% of parents felt that limiting children’s access to smartphones would make life easier for them.

With the above in mind, we have made the decision to prohibit the use of mobile phones and devices whilst pupils are in school. I have attached a copy of the new Mobile Phone Policy for your reference and summarised the main changes below which will come into effect on September 2nd 2024.

The full updated Mobile Phone Policy will be accessible on the website shortly, but the summarised essential detail is below:

Years 7 to 11

  • Mobile phones and devices (including air pods and other headphones) should be switched off and put away in bags during all lessons.
  • Mobile phones and devices (including air pods and other headphones) should be switched off and put away in bags whilst moving between lessons, during break times and during lunch times.
  • Headphones / ear buds are not to be used or visible in corridors during lessons, between lessons or at any point in the school day.
  • A member of staff may authorise use of mobile phones during school trips, fixtures and events. If they do so, this instruction will be clear and explicit.
  • A member of staff may authorise use of mobile phones in the event of an emergency. If they do so, this instruction will be clear and explicit.

Years 12 and 13

  • Mobile phones and devices should be switched off and put away in bags during all lessons.
  • Mobile phones and devices should be switched off and put away in bags whilst moving between lessons (e.g. corridors).
  • Mobile phones are permitted to be used in the following designated areas: Sixth Form Work Room, the Sixth Form communal area and the Sixth Form study space
  • No headphones / ear buds are to be used during lessons and they must not be visible when circulating through school (e.g. on corridors)
  • Headphones/ear buds may be used in the designated areas prescribed above.

There may be exceptional circumstances or cases whereby a student requires temporary or permanent access to or use of a mobile phone or other device. This may include significant and evidenced medical needs that place a student at risk. Any such request will be considered on an individual basis and must be referred by parents/carers or the relevant Progress Leader to the Headteacher.

In the event of illness or injury, students should not use their mobile phones/devices to contact parents/carers directly to make personal collection arrangements without the prior knowledge of first aid or pastoral staff. Students should report to reception or seek help from a staff member. In the case of any emergency, it is also still requested that parents/carers contact the school first so that are aware of any potential issue and can support students promptly.

Staged Sanction Protocol

If a student’s mobile phone is seen or heard, or if a student has their air pods/headphones out or on, a member of staff will confiscate the device and place it in a designated safe and secure area within school. Parents/carers will receive a notification email on each occasion and it will also be logged ClassCharts.

1st and 2nd Infringement

  • On the first and second occasion, the student will be able to collect their phone from the designated area at the end of the school day (3:10 pm) only.

3rd infringement

  • On the third occasion, only the parent/carer will be able to collect the phone from school. Any further infringements of the Mobile Phone / Device Code of Conduct may result in a ban on the student bringing a mobile phone / device to school or more serious sanctions in line with the school discipline code.

Many thanks in advance for your support regarding the implementation of this policy. Please take time to discuss these changes with your child and ensure that they are fully aware of the new rules.

We believe that these changes will positively support pupil’s emotional and mental wellbeing, maximise their learning outcomes and reduce unnecessary disruption for all.

Yours sincerely

Dewi Owen

Headteacher