Mae heddiw yn Ddydd Miwsig Cymru – diwrnod i ddathlu cerddoriaeth Gymraeg o bob math. Mae cymaint o arlwy allan yno i wrando arno, a pha ffordd well o orffen wythnos oedd hefyd yn Wythnos Iechyd Meddwl na thrwy wrando ar gerddoriaeth Gymraeg? Cofiwch, does dim rhaid gallu siarad yr iaith er mwyn gallu mwynhau a gwerthfawrogi cerddoriaeth. Yn ôl geiriau yr actor Rhys Ifans: “Mae rhoi miwsig i iaith yn rhoi isdeitlau iddi, ac yn ei gwneud hi’n rhyngwladol, ac yn iaith i bawb.” Dyma enghraifft o gân sy’n dangos nad oes ffiniau ieithyddol er mwyn gallu mwynhau. Mae’r gân ‘Golau’n Dallu/Dallta ag na Soilse’ yn cael ei pherfformio gan aelodau o Urdd Gobaith Cymru a TG Lurgan yn Iwerddon ac yn gyfeithiad Cymraeg a Gaeleg o’r gân Saesneg enwog, ‘Blinding Lights’. Mwynhewch! #DyddMiwsigCymru


Today is Welsh Language Music Day – a day to celebrate Welsh music of all kinds. There is an abundance to listen to, and what better way to finish the week that was also Mental Health Week than listening to Welsh music? Remember, you don’t have to be able to speak the language to enjoy and appreciate music. In the words of the actor, Rhys Ifans: “To put music to a language, is to give it subtitles, is to make it international, is to make it everyone.” Here is an example of where music doesn’t have linguistic barriers for us to be able to enjoy. The song ‘Golau’n Dallu/Dallta ag na Soilse’ is performed by members of the Urdd in Wales and TG Lurgan in Ireland and is a Welsh/Gaelic cover of the well-known English song ‘Blinding Lights’. Enjoy! #DyddMiwsigCymru