Oherwydd y sefyllfa bresennol, nid yw Eisteddfod yr Urdd fel rydym yn gwybod amdani yn gallu digwydd eleni ond fel llynedd mae’r Eisteddfod wedi addasu a bydd Eisteddfod T yn digwydd yn ystod wythnos hanner tymor mis Mai. Mae amrywiaeth o gystadlaethau gwahanol y gall disgyblion (a rhieni) gystadlu ynddyn nhw, rhai traddodiadol a rhai mwy modern – mae rhywbeth i bawb. Mae rhestr o’r cystadlaethau y gellir cystadlu ynddyn nhw, rheolau cystadlu a gwybodaeth am sut i gofrestru i’w canfod trwy ddilyn y ddolen: https://s4c.urdd.cymru/cy/. Os oes rhywun yn awyddus i gystadlu rhaid bod wedi cofrestru ac uwchlwytho unrhyw recordiadau/gwaith erbyn 12y.p ar Ddydd Gwener, 26ain o Fawrth. Nid oes rhaid i ddisgyblion fod wedi ymaelodi hefo’r Urdd i allu cystadlu eleni.
Due to the current situation, the Urdd Eisteddfod as we know it isn’t able to go ahead, however Eisteddfod T is back and will be held during half term week in May. There are a variety of different competitions for pupils (and parents) to compete in, from the traditional to the more modern – there is something for everybody. A list of the competitions, competition rules and information about registering can be found by following this link: https://s4c.urdd.cymru/en/. If anybody is eager to compete, registration and uploading any recordings/work must have been completed by 12pm on Friday, 26th March. Being a member of the Urdd is not a requirement for competing this year.