15fed o Orffennaf 2026

Annwyl Rieni/ Ofalwyr,

Efallai bod rhai ohonoch yn ymwybodol fy mod wedi hysbysu’r Corff Llywodraethol (CLl) ym mis Hydref na fyddwn yn
gwasanaethu tymor arall fel Cadeirydd y Llywodraethwyr ar ôl y flwyddyn academaidd hon. Credaf yn gryf mewn
newid o fewn sefydliadau gan y gall unigolion a’r sefydliad ei hun golli ei ffresni a dod yn llai effeithiol heb newid.
Ymunais a Chorff Llywodraethol yr Ysgol Uwchradd yn 2015 ac ers hynny rydym wedi wynebu cyfnodau anodd; fodd
bynnag, heddiw, mae gennym ysgol hyfyw sy’n gwasanaethu’r gymuned yn dda. Mae ein canlyniadau yn parhau i fod
yn well na rhai ysgolion cyfatebol ac mae ein cyfradd cadw disgyblion yn y chweched dosbarth yn parhau i fod
ymhlith yr uchaf.


Ar y 25ain o Fehefin, cyhoeddodd Cyngor Sir Powys (CSP) bapur cabinet a oedd yn nodi bod 25% o ysgolion CSP wedi
cyflwyno cyllidebau diffyg heb awdurdodiad ar Fai y 1af 2026. Ac eithrio ysgolion arbennig , dim ond 2 o’r 11 darparwr
addysg uwchradd a gyflwynodd gyllidebau gyda gwarged, ac rydym ni yn un ohonynt. Mae ein cynllunio ariannol
cadarn a’n penderfyniadau ariannol rhagweithiol a doeth wedi ein rhoi mewn sefyllfa gref iawn. Mae’r canlyniadau
i’r ysgolion eraill yn ddifrifol; i roi ffigyrau ar hynny: o gyfanswm diffyg o £7 miliwn, mae 6.6 miliwn (90%) yn perthyn i
ddarparwyr addysg uwchradd. Mae’r ffordd y mae cyllid ysgolion yn gweithio yn golygu, hyd yn oed os ceir mwy o
arian, bydd angen i’r ysgolion sydd â diffyg ddod o hyd i atebion i ad-dalu eu dyledion, yn hytrach na’r rhai sydd â
gwarged. Mae hyn oherwydd nad oes gan yr awdurdodau lleol y pŵer i ddileu dyledion ysgolion, oni bai bod yr ysgol
yn cau. Gan fod 85%-90% o gyllidebau’r ysgolion yn mynd ar staffio, mae’r cyfleoedd i arbed arian yn y 9 darparwr
addysg uwchradd hynny yn gyfyngedig iawn. Rwyf fi, a’r Corff Llywodraethu cyfan, yn hynod falch o’r gwaith mae’n
harweinwyr uwch wedi’i wneud wrth reoli ein cyllideb ddirprwyedig dros nifer o flynyddoedd. Mae’r mwyafrif
ohonom yn talu trethi ym Mhowys, ac yn bendant byddaf yn mynegi fy safbwyntiau ar y mater hwn i’m haelod
etholedig.

Efallai bod rhai ohonoch yn ymwybodol bod honiadau cyhoeddus, heb eu profi, wedi’i gwneud yn ein herbyn
ynghylch ein darpariaeth uwchradd cyfrwng Cymraeg. Ysgogodd hyn y Cyngor (CSP) i gynnal adolygiad annibynnol o’n
darpariaeth (adolygiad mor annibynnol fel nad oeddem yn ymwybodol ei fod yn cael ei gynnal!). Mae’r adroddiad
hwn bellach wedi’i gyflwyno I Fforwm yr Iaith Gymraeg, ac mae’n cadarnhau’n gryf gynllunio strategol yr ysgol, e
hymddygiad ariannol priodol a’i llwyddiant wrth ddarparu addysg ddwyieithog barhaus i’r gymuned. Er fy mod yn
falch iawn bod yr ysgol wedi ei chlirio yn llwyr o unrhyw gam ymddygiad, rwyf yn ymwybodol bod yr adroddiad yn
nodi pa mor heriol yw darparu cwricwlwm dwyieithog eang. Dylech oll fod yn ymwybodol, yn dilyn ymgynghoriad
braidd yn broblematig gan Gyngor Sir Powys, ynghylch addysg ôl-16, bod yr awdurdod yn dal i gael trafferth
penderfynu sut i ddarparu addysg ôl-16 o safon ar draws y sir. Mae ein partneriaeth ‘Trisgol’ (Ysgol Llanfyllin, Ysgol
Bro Caereinion ac Ysgol Uwchradd Y Trallwng) yn cael ei hystyried yn enghraifft ragorol o ddarpariaeth ôl-16. Heblaw
hyn, gyda’r newidiadau yn nemograffeg Powys, bydd ysgolion yn parhau i weld gostyngiad yn nifer y disgyblion , a
fydd yn arwain at lai o ddarpariaeth; felly, y ffordd fwyaf amlwg o wrthweithio hyn – er mwyn galluogi’r ddarpariaeth
ddwyieithog eang i’n cymuned ehangach – yw cydweithio rhwng ysgolion yn llawer cynharach.

Yn olaf ond nid lleiaf, yn y blynyddoedd i ddod rydym yn bwriadu annog mwy o ddisgyblion cyfrwng Cymraeg drwy
ddarparu Cyfnod Sylfaen drwy gyfrwng y Gymraeg ac oedi cyn gofyn i rieni wneud dewis nes cychwyn Cyfnod
Allweddol 2. Y bwriad yw rhoi cyfle i fwy o deuluoedd brofi addysg cyfrwng Cymraeg, tra hefyd yn ceisio meithrin
cariad at yr iaith yn gynnar iawn. Mae’n werth cofio mae ein cyfnod cynradd yw Sylfaen dysgu, a bod y staff yn y
Cyfnod Cynradd yn siapio meddyliau’r plant ifanc sy’n mynd ymlaen drwy’r ysgol gyfan; fodd bynnag, yn aml maent
yn arwyr di-glod pan fyddwn oll yn tueddu i farnu addysg yn seiliedig ar ganlyniadau arholiadau yn unig.

Ar yr 2il o Orffennaf, cyfarfu’r Corff Llywodraethu am y tro olaf y flwyddyn academaidd hon a phleidleisio i benodi
Sam Evans yn Gadeirydd nesaf y Llywodraethwyr; dymunaf bob llwyddiant i Sam yn y rôl hon. Yn olaf, mae wedi bod
yn anrhydedd mawr cadeirio a gwasanaethu ar y corff llywodraethu. I’r rhai sy’n teimlo y gallant wneud hynny, mae’n
dasg werth chweil ac yn un sydd ei hangen yn fawr. Diolch, a dymunaf bob llwyddiant i chi yn y dyfodol.

Cofion gorau,

Graeme Hunter.

15th of July 2026


Dear Parents/Carers,

Some of you may be aware that in October I informed the Governing Body (GB) that I would not serve another term
as Chair, of Governors beyond this academic year. I am a great believer in change in institutions because individuals
and the institution can become stale and less effective without change.

I first joined the High School GB in 2015 and since there we have had some turbulent times; however, as we stand
today, we have a viable school that serves the community well. Our outcomes remain better than some equivalent
schools and our retention rate in 6th Form remains one of the highest. On the 25th of June, Powys County Council
(PCC) published a Cabinet paper that indicated that 25% of PCC schools submitted unlicensed deficit budgets on 1
May 26. Excluding special schools, only 2 out of 11 secondary providers submitted surplus budgets, of which we are
one. Our strong financial planning and proactive, prudent financial decisions have placed us in a very strong position.
The consequence for the other schools is dire; to put figures on it; of a £7million deficit £6.6million (90%) belongs to
secondary providers. The way that school funding works means that, even if more money is found, those schools in
deficit will need to find the solutions to repay their debts, not those in surplus. This is because local authorities do
not have the power to write off school debts, unless the school is closed. As 85%-90% of most school budgets go on
staffing, the areas for saving in those 9 secondary providers is very limited. I and the entire Governing Body are
extremely proud of the work our senior leaders have done in managing our delegated budget over many years. The
majority of us are Powys taxpayer, I will certainly be making my views on this known to my elected member.

Some of you may be aware that we have had some unsubstantiated, public allegations made against us about our
secondary Welsh medium (WM) provision. This prompted PCC to undertake an independent review of our provision
(so independent that we didn’t even know it was being undertaken!). This report has now been submitted to the
Welsh Language Forum, and it is a very strong vindication of the School’s strategic planning, financial propriety and
success in providing sustained dual medium education for the community. Whilst I am delighted that the school has
been entirely exonerated, I am aware that the report identifies how challenging delivering a broad dual language
curriculum is. You should all be aware that, after a somewhat problematic post-16 consultation was undertaken by
PCC, the authority is still struggling to identify how to deliver quality county wide post-16 education. Our Trisgol
partnership (Ysgol Llanfyllin, Ysgol Bro Caereinion and Welshpool High School) is being seen as an exemplar for post
16 delivery. Furthermore, with the changing demographics in Powys, schools will continue to see falling roles, which
will lead to reduced provision; therefore, the most obvious counter to this, to enable the broadest dual language
provision for our wider community, is collaboration across schools at a much earlier stage.

Last but not least, in the coming years we intend to encourage more WM pupils by delivering Foundation through
WM and delaying parental choice until the commencement of Key Stage 2. The intent is to expose more families to
WM education whilst also trying to encourage a love of the language at a very early stage. It is well worth
remembering that our primary phase is the foundation of learning and the staff within Cyfnod Cynradd are the
sculptors of the young minds that progress through the entire school; however, they are often unsung heroes when
we all get lulled into judging education simply on exam results.

On the 2nd of July the GB met for the final time this academic year and voted Sam Evans as the next Chair of
Governors, I wish Sam every success in this role. Finally, it has been a great honour to chair and serve on the
governing body. For those who feel they can, it is a much needed and rewarding task. Diolch, and I wish you every
success in the future.

Kind regards,

Graeme Hunter.