16 Gorffennaf 2026
Annwyl Rieni a Gofalwyr,
Wrth inni agosáu at ddiwedd blwyddyn academaidd brysur arall, hoffwn ddiolch i’n holl rieni a gofalwyr am eich cefnogaeth a’ch cydweithrediad parhaus drwy gydol 2025–2026. Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr eich partneriaeth â’r ysgol, sy’n chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi ein disgyblion.
Bu llawer i’w ddathlu eleni. Mae ein gweithgareddau diwedd tymor diweddar, gan gynnwys Eisteddfod yr Ysgol, y mabolgampau, gweithgareddau pontio a gwasanaethau, wedi bod yn ardderchog. Mae wedi bod yn hyfryd gweld disgyblion ar draws yr ysgol yn cymryd rhan mor frwdfrydig ac yn cynrychioli cymuned ein hysgol mewn modd mor gadarnhaol.
Wrth i’r flwyddyn academaidd ddirwyn i ben, rydym yn ffarwelio â nifer o aelodau gwerthfawr o staff:
- Bydd Mr Mel Roberts, sydd wedi addysgu yn yr ysgol am 33 o flynyddoedd, a Mrs Lindsay Watson, sydd wedi addysgu yma ers 2014, ill dau yn ymddeol.
- Bydd Miss Sam Goodare a Mrs Nadine Bowker yn gadael i ymgymryd â swyddi newydd.
- Bydd Miss Arletta Weiss, aelod hynod ymroddedig o’n staff cymorth sydd wedi gweithio yn y Clwb Brecwast, fel goruchwylydd amser cinio ac fel rhan o’n tîm glanhau, yn gadael yr ysgol er mwyn symud i ardal arall.
Diolchwn yn ddiffuant iddynt oll am eu hymroddiad, eu proffesiynoldeb a’u cyfraniad at fywyd yr ysgol. Bydd colled fawr ar eu hôl, a dymunwn bob hapusrwydd a llwyddiant iddynt hwy a’u teuluoedd yn y dyfodol.
Bydd canlyniadau arholiadau ar gael i’w casglu o’r ysgol ar y dyddiadau canlynol:
- Canlyniadau Safon Uwch: Dydd Iau 13 Awst 2026
- Canlyniadau TGAU: Dydd Iau 20 Awst 2026
Er y bydd yr ysgol ar gau yn ystod gwyliau’r haf, bydd cymorth ar gael os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch diogelwch neu les plentyn. Gellir cysylltu â Thîm Drws Ffrynt Gwasanaethau Plant Powys ar 01597 827666 yn ystod oriau swyddfa neu ar 0345 054 4847 y tu allan i oriau swyddfa. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cyngor Sir Powys. Gall plant a phobl ifanc hefyd gysylltu â Childline yn rhad ac am ddim ar 0800 1111. Os oes unrhyw un mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999.
Bydd y disgyblion yn dychwelyd i’r ysgol ar Ddydd Iau 3 Medi 2026. Bydd disgwyl i bob disgybl wisgo gwisg ysgol lawn o’r diwrnod cyntaf, gan gynnwys cydymffurfio â disgwyliadau’r ysgol o ran gemwaith a steiliau gwallt. Gofynnwn i rieni a gofalwyr ddarllen Polisi Gwisg Ysgol yr ysgol am y manylion llawn.
Yn olaf, hoffwn ddymuno gwyliau haf diogel, hapus ac ymlaciol i’n holl ddisgyblion, teuluoedd ac aelodau o gymuned ehangach yr ysgol. Edrychaf ymlaen at groesawu pawb yn ôl ac at barhau i weithio gyda chi yn ystod blwyddyn academaidd 2026–2027.
Yn gywir,
Dewi Owen
Pennaeth
16 July 2026
Dear Parents and Carers,
As we approach the end of another busy academic year, I would like to thank all parents and carers for your continued support and co-operation throughout 2025–2026. Your partnership with the school is greatly valued and plays an essential part in supporting our pupils.
There has been much to celebrate this year. Our recent end-of-term activities, including the School Eisteddfod, sports days, transition activities and assemblies, have been excellent. It has been wonderful to see pupils across the school participating so enthusiastically and representing our school community so positively.
As the academic year draws to a close, we say farewell to several valued members of staff:
- Mr Mel Roberts, who has taught at the school for an exceptional 33 years, and Mrs Lindsay Watson, who has taught here since 2014, will both be retiring.
- Miss Sam Goodare and Mrs Nadine Bowker will be leaving to take up new posts.
- Miss Arletta Weiss, an incredibly dedicated member of our support staff who has worked in Breakfast Club, provided lunchtime supervision and been part of our cleaning team, will be leaving the school to relocate.
We thank them all sincerely for their dedication, professionalism and contribution to school life. We will miss them greatly and wish them and their families every happiness and success for the future.
For pupils awaiting examination results, these will be available to collect from school on the following dates:
- A-level results: Thursday 13 August 2026
- GCSE results: Thursday 20 August 2026
Although the school will be closed during the summer, support remains available if you have concerns about the safety or welfare of a child. Powys Children’s Services Front Door can be contacted on 01597 827666 during office hours or 0345 054 4847 outside office hours. Further information is available on the Powys County Council website. Children and young people can also contact Childline free of charge on 0800 1111. If anyone is in immediate danger, please call 999.
Pupils will return to school on Thursday 3 September 2026. Full school uniform will be expected from the first day, including compliance with the school’s expectations regarding jewellery and hairstyles. Parents and carers are asked to read the school’s Uniform Policy for full details.
Finally, I wish all our pupils, families and members of the wider school community a safe, happy and restful summer holiday. I look forward to welcoming everyone back and continuing to work with you during the 2026–2027 academic year.
Yours sincerely,
Dewi Owen
Headteacher
