Newidiadau i Brydau Ysgol Am Ddim i rai teuluoedd sydd â phlant ym Mlynyddoedd 7 ac 8 yn yr Ysgol Uwchradd o fis Medi 2026

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i ehangu cymhwysedd ar gyfer Prydau Ysgol Am Ddim i deuluoedd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol o fis Medi 2026 ymlaen, gan ddechrau gyda phlant ym mlynyddoedd 7 ac 8. Bydd y rhain yn cael eu hadnabod fel prydau ysgol am ddim estynedig (FSM estynedig).   Beth mae hyn yn ei olygu i deuluoedd Powys? Bydd teuluoedd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol yn gallu gwneud cais o 14 Medi 2026.   Bydd teuluoedd yn gallu gwneud cais trwy’r broses ymgeisio bresennol am Brydau Ysgol Am Ddim yma   https://cy.powys.gov.uk/article/11909/Prydau-Ysgol-am-Ddim   Unwaith y bydd eu cais wedi’i dderbyn a’i wirio am gymhwysedd, byddant yn derbyn llythyr yn eu hysbysu o’r canlyniad.   Os yw eu plentyn yn gallu cael mynediad at Brydau Ysgol am Ddim estynedig drwy’r cynllun, byddant yn gallu cael mynediad at bryd o fwyd am ddim o ddyddiad y dyfarniad. Bydd hyn yn aros yn ei le am weddill y flwyddyn academaidd. Yna bydd angen iddynt wneud cais i’w plentyn dderbyn prydau bwyd yn y flwyddyn academaidd ganlynol os ydynt yn dal i dderbyn Credyd Cynhwysol.


Changes to Free School Meals for some families who have children in Years 7 and 8 in Secondary School from September 2026  

The Welsh Government has announced plans to expand eligibility for Free School Meals (FSM) for families in receipt of Universal Credit from September 2026, starting with children in years 7 & 8. These will be known as expanded free school meals (expanded FSM).   What does this mean for Powys families?   Families receiving Universal Credit will be able to apply from 14 September 2026.   Families will be able to apply through the current Free School Meals application process here   https://en.powys.gov.uk/article/11906/Free-school-meals   Once their application has been received and checked for eligibility, they will receive a letter notifying them of the outcome.   If their child is able to access expanded FSM through the scheme, they will be able to access a free meal from the date of the award. This will remain in place for the remainder of the academic year. They will then need to apply for their child to receive meals in the following academic year if they are still in receipt of Universal Credit.