Mae staff a myfyrwyr Ysgol Llanfyllin wedi gweithio gyda Chyngor Sir Powys ar
ddyluniad ac adnewyddu llawn un o’i hen flociau toiledau. Roedd yr ystafelloedd
ymolchi gwreiddiol hyn mewn cyflwr gwael a blinedig iawn gyda theils, lloriau a
chiwbiclau wedi’u difrodi. Roedd dyluniad y toiledau hefyd yn wael iawn ac roedd y
cynllun yn golygu nad oedd yn bosibl i staff yr ysgol allu monitro a goruchwylio’r
ystafell yn effeithiol.
Archwiliwyd llawer o opsiynau ond daeth yn amlwg bod angen trawsnewid y rhan
hon o’r ysgol yn llwyr. Roedd angen newid cynllun mewnol yr ystafell ymolchi i greu
ystafell ymolchi modern, cynllun agored, neillryw. Nawr bod y gwaith wedi’i gwblhau,
gall myfyrwyr ddewis defnyddio’r cyfleusterau newydd hyn neu’r toiledau un rhyw
presennol sydd heb eu newid. Mae toiledau i’r anabl hefyd ar gael drwy’r ysgol.
Dywedodd y Pennaeth Dewi Owen:
“Roedden ni eisiau creu gofod modern, glân a diogel i’n holl fyfyrwyr. Buom yn
gweithio gyda Chyngor Sir Powys i wneud yr ystafell ymolchi newydd yn ofod mwy
agored i bob myfyriwr”.
“Bu ein cyngor myfyrwyr yn gweithio gyda’r awdurdod lleol ar ddyluniad y
cyfleusterau. Roedd y myfyrwyr yn dod â chwynion i gyfarfodydd y cyngor yn
rheolaidd am gyflwr gwael y toiledau. Cwynodd llawer o ddisgyblion fod hen doiledau
yn hen ffasiwn, yn anhylan ac yn ganolbwynt ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Dewisodd rhai myfyrwyr beidio â defnyddio’r toiledau hynny o gwbl yn ystod y
diwrnod ysgol, sefyllfa a oedd yn gwbl annerbyniol.”
Gan weithio dros wyliau’r haf, tynnwyd y waliau mewnol a chrëwyd agoriad mawr i
ddarparu gwelediad clir i’r coridor. Crëwyd dwy ardal wahanol o’r toiledau un rhyw
gwreiddiol. Tynnwyd yr holl hen ffitiadau, megis wrinal, unedau gwresogi, sinciau a
chiwbiclau.
Oherwydd y cynllun agored, dewiswyd ciwbiclau uchder llawn er mwyn sicrhau’r
preifatrwydd mwyaf posibl i ddisgyblion yn y ddwy ran o’r ystafell. Crëwyd dwy ardal
ymolchi gymunedol a gosodwyd peiriannau sebon newydd sbon, drychau a sychwyr
dwylo ‘Dyson Air Blade’ ynddynt.
Yn gyffredinol, cyflawnwyd y prosiect yn llwyddiannus ar amser ac o fewn y gyllideb.
Afraid dweud, mae’r ysgol yn hapus iawn gyda’u gofod ystafell ymolchi modern,
cynllun agored newydd a fydd yn cymryd ei le ochr yn ochr â’r cyfleusterau toiled un
rhyw ac anabl eraill sydd yn adeilad yr ysgol.
Os hoffai unrhyw rieni neu ofalwyr ymweld â’r ysgol i weld unrhyw un o’n
cyfleusterau, cysylltwch â’r ysgol i wneud apwyntiad.


Staff and students at Ysgol Llanfyllin have worked with Powys County Council on the
design and full refurbishment of one of its old toilet blocks. These original
washrooms were in a very poor, tired condition with damaged tiling, flooring &
cubicles. The toilets were also a very poor design and the layout meant that there
was no clear line of vision for school staff to monitor the room effectively.
Many options were examined but it became clear that a total transformation of this
area of the school was needed. The internal layout of the washroom needed to be
changed to create a modern, open-plan, unisex washroom. Now the work has been
completed, students can choose to use either these new facilities or the existing,
single-sex toilets which have not been changed. Disabled toilets are also available
throughout school.
Headteacher Dewi Owen said:
“We wanted to create a modern, clean and safe space for all our students. We
worked with Powys County Council to make the new washroom facility a more open
and less intimidating space for all students”.
“Our student council worked with the school and local authority on the design of the
facilities. The students regularly brought complaints to council meetings about the
poor state of the toilets. Many pupils complained that old toilets were outdated,
unhygienic and a hub for anti-social behaviour. Some students elected not to use
those toilets at all during the school day, a situation which was totally unacceptable.”
Working over the summer holidays, internal walls were removed and a large opening
was created to provide a clear line of vision onto the corridor. Two distinct areas
were created from the original single sex toilets. All old fittings, such as urinals,
heating units, sinks and cubicles were removed.
Due to the open plan toilet design full height cubicles were chosen to maximise
privacy for pupils in both areas of the room. Two communal wash areas were
created and fitted with brand new soap dispensers, mirrors & ‘Dyson Air Blade’ hand
dryers.
Overall, the project was delivered successfully on time and on budget. Needless to
say, the school are very happy with their new open plan, modern washroom space
which will take its place alongside the other single sex and disabled toilet facilities
contained within the school building.
If any parents or carers would like to visit the school to view any of our facilities,
please contact the school to make an appointment.


