Annwyl rieni / gofalwyr,
I gyd-fynd â’r flwyddyn academaidd newydd (2021/22), byddwn yn rhoi pàs bws o’r math diweddaraf newydd i ddysgwyr Powys sy’n defnyddio’r gwasanaeth cludiant o’r cartref i’r ysgol. Bydd y pasys newydd yn cael eu defnyddio o fis Medi 2021 ymlaen.
Bydd gan y pasys god QR unigol a fydd yn cael ei sganio gan y gyrrwr bob tro y bydd eich plentyn yn defnyddio cludiant o’r cartref i’r ysgol.
Trwy hyn bydd Cyngor Sir Powys yn gallu darparu gwasanaeth effeithlon ledled y sir. Bydd yn sicrhau cofnod cywir o’r dysgwyr unigol ar unrhyw fws ar unrhyw adeg. Bydd hyn yn cydymffurfio â gofynion Monitro, Olrhain a Diogelu.
Trwy fedru gwirio’n gyflym ac yn gywir pa ddisgyblion sy’n defnyddio pob bws neu ddulliau eraill o gludiant o’r cartref i’r ysgol ar unrhyw adeg, gallwn gadw disgyblion a staff yn ddiogel os bydd mwy o achosion o’r coronafeirws, neu heintiau a sefyllfaoedd eraill yn y dyfodol.
I sicrhau bod gennym y wybodaeth fwyaf diweddaraf cyn argraffu’r holl basys newydd, hoffem gadarnhau bod y wybodaeth ry’n ni’n ei chadw ar gyfer pob disgybl yn gywir.
A fyddech cystal â llenwi holiadur gwahanol ar gyfer pob plentyn sydd gennych sy’n defnyddio’r gwasanaeth cludiant o’r cartref i’r ysgol.
SYLWCH, GALL METHU Â CHWBLHAU’R HOLIADUR OLYGU OEDI WRTH ROI PÀS BWS NEWYDD I’CH PLENTYN.
Nid yw cyflwyno’r pasys bws Powys newydd yn golygu y bydd newid yn y gwasanaeth cludiant o’r cartref i’r ysgol rydym yn ei ddarparu ar hyn o bryd. Link to School Transport Questionnaire – https://tinyurl.com/nsm8ep53
Yn gywir
Jenny Chessell
Uwch-swyddog Cludiant Addysg
01597 826678
jenny.chessell@powys.gov.uk
Dear parents / carers,
To coincide with the new academic year (2021/22), all Powys learners using the home to school transport service will be issued with a new state of the art bus pass to be used from September 2021 onwards.
The new bus passes will have an individual QR code which will be scanned by the driver each time your child uses the home to school transport.
This will not only allow Powys County Council to provide and run an efficient service across the county, but will also ensure an accurate record of individual learners on any bus, at any time, to conform with Track Trace & Protect purposes.
Being able to quickly and accurately ascertain which pupils are using each bus or other modes of home to school transport at any one time, ensures we can keep pupils and staff safe in the event of any further outbreaks of coronavirus or other infections or situations in the future.
To ensure we have the most up to date information before printing all the new passes, we would like to confirm the information we hold for each learner is correct.
Please can you complete a separate questionnaire for each child you have that uses the home to school transport service.
PLEASE NOTE, FAILURE TO COMPLETE THE QUESTIONNAIRE MAY RESULT IN A DELAY IN ISSUING YOUR CHILD WITH A NEW BUS PASS.
The introduction of the new Powys bus passes does not mean that there will be a change in the home to school transport service currently being provided. Link to School Transport Questionnaire – https://tinyurl.com/nsm8ep53
Yours faithfully
Jenny Chessell
Education Transport Senior Officer
01597 826678
jenny.chessell@powys.gov.uk