Ar ôl ymgynghori â chynrychiolwyr Powys, mae cyfradd heintio COVID yr ysgolion yn cael ei dosbarthu fel ‘isel’. O ganlyniad, yn dilyn ‘Fframwaith penderfyniadau rheoli heintiau COVID-19 Lleol Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion’, gwneir y newidiadau a ganlyn: 

Gorchuddion wyneb i ddysgwyr oed uwchradd  

Ni chaiff gorchuddion wyneb eu hargymell fel mater o drefn, ond gall dysgwyr oed uwchradd eu gwisgo unrhyw le ar safle’r ysgol os byddant yn dymuno gwneud hynny  

Argymhellir y dylid parhau i wisgo gorchuddion wyneb ar gludiant i’r ysgol.  

Fel ysgol byddwn yn adolygu ein cyfradd heintio, ac os oes angen, efallai y bydd mesurau blaenorol yn cael eu hailgyflwyno.  


After consulting with Powys representatives, the schools COVID infection rate is classified as ‘low’. As a result, following the ‘The Welsh Government Local COVID-19 infection control decision framework for schools’, the following changes will be made:   

Use of face coverings by secondary aged learners  

Face coverings are not routinely recommended but may be worn by secondary aged learners anywhere on the school site should they wish to do so.  

Face coverings continue to be recommended on school transport.  

As a school we will review our infection rate, and if needed, previous measures may be reintroduced.