Llythyr – Dysgwyr cyfnod sylfaen yn dychwelyd i ysgolion

Dysgwyr cyfnod sylfaen yn dychwelyd i ysgolion
Mae Cyngor Sir Powys wedi dweud bod gwaith cynllunio ar waith fel bod dysgwyr rhwng tair a saith
oed (dosbarthiadau Blynyddoedd Cynnar a Derbyn, a Blynyddoedd Un a Dau) yn gallu dychwelyd yn
ddiogel a threfnus ar ôl gwyliau hanner tymor.

Mae’r cyngor yn gweithio gyda’i ysgolion a’i leoliadau blynyddoedd cynnar i sicrhau bod dysgwyr
oedran cyfnod sylfaen yn dychwelyd yn ddiogel ar ôl hanner tymor mis Chwefror.

Dyma’r trefniadau a fydd ar waith:

• Dydd Llun, 22 Chwefror – Diwrnod paratoi cyn i ddysgwyr y cyfnod sylfaen ddychwelyd yn
raddol
• Bydd pob dysgwyr rhwng tair a saith oed yn dechrau dychwelyd yn raddol ac yn hyblyg
i’w hysgolion / lleoliadau blynyddoedd cynnar o ddydd Mawrth, 23 Chwefror, gyda’r nod y bydd pob
dysgwr cyfnod sylfaen wedi dychwelyd erbyn dydd Gwener, 26 Chwefror.

Bydd penaethiaid yn cysylltu â rhieni neu warcheidwaid gyda manylion penodol ar gyfer ysgolion eu
plant.

Bydd pob ysgol ym Mhowys ar agor i blant sy’n agored i niwed a phlant gweithwyr hanfodol ym mhob
grŵp oedran o ddydd Llun, 22 Chwefror.

Wrth i ddysgwyr ddychwelyd ar ôl y gwyliau hanner tymor, gofynnir i rieni a gofalwyr wisgo eu plant
mewn dillad cynnes sy’n addas ar gyfer dysgu yn yr awyr agored ac fel y gall ysgolion awyru
lleoliadau er diogelwch dysgwyr a staff.

Bydd dysgwyr ysgolion cynradd wyth oed a hŷn a dysgwyr ysgolion uwchradd yn parhau â’u dysgu
ar-lein hyd nes y clywir yn wahanol.

Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet ar faterion Addysg ac Eiddo: “Diogelwch ein
dysgwyr a staff ysgolion yw ein prif flaenoriaeth.

“Rydym wedi bod yn gweithio gydag arweinwyr ein hysgolion i’w helpu i baratoi ar
gyfer croesawu dysgwyr yn ôl i’r ysgol a lleoliadau blynyddoedd cynnar.

“Bydd y diwrnod paratoi ddydd Llun, 22 Chwefror yn rhoi’r cyfle i staff i wneud yn siwr bod popeth
yn ei le i alluogi dysgwyr cyfnod sylfaen i ddychwelyd yn ddiogel.

Fodd bynnag, rwyf am fod yn glir, os bydd amgylchiadau’n newid a chynnydd yng nghyfraddau
trosglwyddo Covid-19 yn y sir, yna bydd ein hysgolion dim ond ar agor ar gyfer plant sy’n agored i
niwed a phlant gweithwyr hanfodol.

“Wrth i ysgolion baratoi i groesawu dysgwyr yn ôl yn raddol, mae’n hanfodol bod pob teulu’n chwarae
eu rhan drwy ddilyn y canllawiau yma yng Nghymru ac nad ydynt yn cymysgu y tu allan i’r ysgol i
atal lledaenu Covid-19. Mae llawer o staff ysgolion a rhieni yn bryderus pan fyddant yn clywed
adroddiadau am deuluoedd yn cymysgu a’i gilydd mewn digwyddiadau gyda phlant yn aros dros nos mewn
cartrefi eraill.

“Ar ôl hanner tymor, bydd ysgolion yn dal i fod ar agor i blant gweithwyr hanfodol yn ogystal â
dysgwyr sy’n agored i niwed ym mhob grŵp oedran. Fodd bynnag, mae agor ysgolion yn raddol yn bwysig
er mwyn sicrhau diogelwch ein dysgwyr a’n staff, felly bydd rhaid i grwpiau blynyddoedd eraill aros
gartref.

“Hoffwn ddiolch i ysgolion am eu hymdrechion parhaus i gefnogi disgyblion yn ystod y cyfnod anodd
hwn a hoffwn ddiolch hefyd i rieni am eu hamynedd a’u
cydweithrediad yn ystod y cyfnod digynsail hwn o darfu ar ein hysgolion.”


Letter Download – Return to schools for foundation phase learners

Return to schools for foundation phase learners
Work to plan a safe and organised return for learners aged three to seven (Early Years and
Reception classes and Years One and Two) after the half-term holidays is ongoing, Powys County
Council has said.

The council is working with its schools and early year settings to ensure that foundation
phase-aged learners return safely after February half-term.

The following arrangements will be:

• Monday, February 22 – Preparation day ahead of the phased return of foundation
phase-aged learners
• All learners aged three to seven will begin a phased and flexible return to their
school / early years setting from Tuesday, February 23, aiming for all foundation phase learners to
return by Friday, February 26.

Headteachers will contact parents or guardians with the specific details of their children’s
school.

All schools in Powys will be open for vulnerable children and children of in all age groups from
Monday, February 22.

As learners return after the half term holidays, parents and carers are being asked to dress their
children in warm clothes that are suitable for outdoor learning and so that schools can maintain
ventilation for the safety of learners and staff.

Primary school learners aged eight and above and secondary school learners will continue with
online learning until further notice.

Cllr Phyl Davies, Cabinet Member for Education and Property, said: “The safety of our learners and
school staff is our main priority.

“We have been working with our school leaders and helping them prepare for the return of learners
to school and early year settings.

“This preparation day on Monday, February 22 will allow staff to ensure that everything is in place
for the safe return of foundation phased-aged learners.

“However, I want to make it clear that if circumstances change and there is an increase in Covid-19
transmission rates in the county, then our schools will only be open for vulnerable children and
children of critical workers.

“As schools prepare for the phased return of learners, it is crucial that all families play their
part by following the guidance here in Wales and do not mix outside of school to prevent the spread
of Covid-19. Many parents and schools’ staff are concerned when they hear reports of inter-family
mixing at events such as sleepovers.

“After half-term, schools will still be open for children of critical workers as well as vulnerable
learners in all age groups. However, a phased approach to opening schools is important to ensure
the safety of our learners and staff, therefore other year groups need to remain at home.

“I would like to thank schools for their ongoing efforts to support pupils during this difficult
time and I would also like to thank parents for their patience and co-operation
during this unprecedented period of disruption to our schools.”