Llythyr Agored i Rieni a’r Gymuned
Pwnc: Gwaith Coedwigaeth yng Nghoedwig Llwyn yn ystod Hanner Tymor
Annwyl Rieni, Gofalwyr ac Aelodau o’r Gymuned,
Rwy’n gobeithio bod popeth yn iawn gennych. Ysgrifennaf atoch i’ch hysbysu o waith coedwigaeth hanfodol a fydd yn cael ei gwblhau yng Nghoedwig Llwyn tu ôl i’r ysgol yn ystod yr hanner tymor yma, o’r 22ain hyd at yr 28ain o Chwefror. Mae’r gwaith yn gam angenrheidiol i sicrhau diogelwch, cynaliadwyedd a datblygiad y safle yn y dyfodol.
Mae nifer o resymau allweddol am y gwaith hwn:
- Gwaredu coed heintiedig a difrodedig – Mae llawer o goed ynn wedi cael eu heffeithio gan glefyd coed ynn, ac mae rhai coed wedi ei difrodi neu gwympo oherwydd y stormydd yn ddiweddar. Mae angen eu gwaredu er diogelwch ac i gynnal iechyd y coetir.
- Annog bioamrywiaeth a thyfiant newydd – Creu gofod i ganiatáu adfywio coed a bywyd planhigion yn naturiol, gan wella ecoleg yr ardal.
- Sicrhau diogelwch yr ardal – Bydd cael gwared ar goed sydd wedi cwympo neu yn gwyro yn lleihau’r risg i’r cyhoedd ac yn sicrhau fod yr ardal yn parhau yn ddiogel i’w defnyddio yn y dyfodol.
- Paratoi ar gyfer gwaith gwella ac atgyweirio pellach – Y gwaith coedwigaeth hwn yw’r cam cyntaf mewn prosiect tymor hwy sy’n anelu at wella a datblygu’r goedwig at ddefnydd y gymuned.
Gwybodaeth bwysig yn ystod y Gwaith
Er diogelwch pawb, nodwch y canlynol os gwelwch yn dda:
- Mynediad Cyfyngedig: Bydd y safle ar gau i’r cyhoedd yn ystod ac yn syth ar ôl y gwaith oherwydd y peirannau trwm yn gweithio a’r perygl posib megis tir anwastad, ardaloedd gwlyb a changhennau crog.
- Llinell amser cwblhau: Mae’r gwaith wedi ei restru i gael ei gwblhau cyn i’r ysgol ail ddechrau. Fodd bynnag, gall ffactorau tu hwnt i’n rheolaeth, fel tywydd garw olygu y bydd rhai gweithgareddau fel symud y coed allan yn parhau ar ôl hanner tymor. Bydd unrhyw waith ychwanegol yn cael ei gynnal allan o oriau ysgol.
- Mesurau Diogelwch: Bydd arwyddion clir yn cael eu gosod o gwmpas y safle. Sicrhewch eich bod yn adolygu ac yn cadw at yr holl gyfarwyddiadau a arddangosir er eich diogelwch eich hunan a diogelwch eraill.
- Aflonyddwch dros dro: Er y gwneir pob ymdrech i darfu cyn lleied â phosib, efallai y bydd peth mwd a rwbel ar ffyrdd yr ysgol a’r ardaloedd cyfagos. Bydd yr holl ardaloedd a effeithir yn cael eu clirio a’u glanhau pan fydd y gwaith wedi’i gwblhau.
Cynlluniau ar gyfer y safle yn y dyfodol
At ôl cwblhau’r gwaith coedwigaeth hwn, rydym yn gyffrous i symud ymlaen gyda chynlluniau i adnewyddu a datblygu’r safle. Mae hyn yn cynnwys gwelliannau i’r llwybrau cyfredol a chreu canolfan feicio a fydd yn cael ei rhedeg gan y gymuned. Bydd mwy o wybodaeth am y cynllun hwn gan gynnwys cyfleoedd i’r gymuned fod yn rhan ohono, yn cael ei rannu yn y dyfodol agos.
Rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd a’ch cyd weithrediad wrth i ni ymgymryd â’r gwaith cynnal a chadw hanfodol a hir ddisgwyliedig hwn. Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu bryderon, cysylltwch â swyddfa’r ysgol ar 01691 648391.
Diolch am eich cefnogaeth.
Dewi Owen
Pennaeth
Ysgol Llanfyllin
Open Letter to Parents and the Community
Subject: Forestry Work in Llwyn Woods During Half Term
Dear Parents, Carers, and Members of the Community,
I hope this letter finds you well. I am writing to inform you of essential forestry work that will be undertaken in the Llwyn Woods behind the school during the upcoming half-term break, from approximately 22nd to 28th February. This work is a necessary step in ensuring the safety, sustainability, and future development of the site.
Purpose of the Forestry Work
There are several key reasons for this work:
- Removal of diseased and damaged trees – Many ash trees have been affected by ash dieback, and some trees have been damaged or fallen due to recent storms. Their removal is necessary for safety and to maintain the health of the woodland.
- Encouraging biodiversity and new growth – Creating space will allow for the natural regeneration of trees and plant life, improving the ecology of the area.
- Ensuring site safety – The removal of fallen and leaning trees will reduce risks to the public and ensure the area remains safe for future use.
- Preparing for further improvement work – This forestry work is the first stage of a longer-term project aimed at improving and developing the woodland for community use.
Important Information During the Works
For the safety of all, please take note of the following:
- Restricted Access: The site will be closed to the public during and immediately after the work due to heavy machinery operation and potential hazards such as uneven ground, wet areas, and hanging branches.
- Completion Timeline: The work is scheduled to be completed before school resumes. However, factors beyond our control, such as adverse weather, may require some activities, such as timber removal, to continue after half-term. Any additional work will be conducted outside of school hours.
- Safety Measures: Clear safety signage will be placed around the site. Please ensure that you review and adhere to all posted instructions for your safety and the safety of others.
- Temporary Disruptions: While every effort will be made to keep disruption to a minimum, there may be some mud or debris on school roads and surrounding areas. All affected areas will be cleared and cleaned upon completion of the work.
Future Plans for the Site
Following the completion of these forestry operations, we are excited to move forward with plans to restore and develop the site. This includes improvements to existing trails and the creation of a community-run biking centre. More details about this initiative, including opportunities for community involvement, will be shared in the near future.
We appreciate your patience and cooperation as we undertake this critical and long-overdue maintenance work. If you have any questions or concerns, please do not hesitate to contact the school office at 01691 648391.
Thank you for your support.
Dewi Owen
Headteacher
Ysgol Llanfyllin