Bydd yr Ŵyl Cerdd Dant yn cael ei chynnal yn Ysgol Llanfyllin dydd Sadwrn yma y 12fed o Dachwedd. Dyma un o brif gwyliau cenedlaethol Cymru ar ôl Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol – felly mae hi’n fraint mawr i’r ysgol ei bod yn dod yma.
Bydd yr ŵyl yn cael ei ddarlledu yn fyw ar S4C o 3pm-11pm dydd Sadwrn.
Fe sylwch yn y dyddiau nesaf bydd prysurdeb mawr yn yr ysgol wrth i ni baratoi ac wrth i S4C symud i mewn i godi set ac adeiladu llwyfan ayyb.
Mae croeso i bawb i ddod i’r ŵyl dydd Sadwrn. Bydd yn costio £7 am y sesiwn bore/pnawn a £7 am sesiwn y nos – neu £12 am y ddau. Plant am ddim. Bydd rhagbrofion yn cael eu cynnal ar draws yr ysgol trwy’r bore a bydd y cystadlu yn dechrau ar y prif lwyfan am 12pm. Bydd stondinau busnesau lleol hefyd – ac arddangosfa wedi ei greu gan y disgyblion. Bydd yr ysgol yn darparu bwyd yn y ffreutur trwy gydol y dydd.
Mae nifer o’n disgyblion yn cymryd rhan yn yr ŵyl, unai yn cystadlu, neu yn cyflwyno gwobrau ar y llwyfan. Pob lwc iddynt oll.
The Cerdd Dant festival will be held at Ysgol Llanfyllin on Saturday the 12th of November. This is one of Wales’s biggest national cultural events, following the Urdd and the National Eisteddfod- so it is a huge honour for us as a school to host the event.
The festival will be broadcast live on S4C from 3pm-11pm on Saturday.
You will notice that there will be a lot of activity around the school during the next few days as S4C move in to build sets and to raise the stage etc.
You are all welcome to attend the festival on Saturday. Entry is £7 for the morning/afternoon session and £7 for the evening session – or £12 for both. Free entry for children. Prelims will be held across the school all morning and competing starts on the main stage at 12pm. There will also be stalls from local businesses – and a wonderful display created by our pupils. The school will be providing food all day in the canteen.
A number of our students will be taking part in the festival, either competing or presenting trophies on the main stage. Good luck to them all.