Annwyl Rieni/ Ofalwyr / Dear Parents/Carers,

Croeso nôl yn dilyn yr hanner tymor.

Isod mae ychydig o wybodaeth am yr hanner tymor sydd i ddod a hefyd rhestr dyddiadau.

Welcome back after half term.

Below is information regarding this next half term and a list of dates for your diary.

Staffio/ Staffing

Mae Mrs S Vaughan wedi penderfynu ei bod am gamu lawr o’i rôl fel Pennaeth Cynorthwyol gyda chyfrifoldeb dros y Cyfnod Cynradd, felly mi fydd Ms Rh Griffiths yn dychwelyd i’r rôl yma fel Pennaeth Cynorthwyol Dros-dro tan yr haf. Golyga hyn y bydd Mrs Vaughan yn rhannu gwaith dysgu dosbarth gyda Miss Griffiths.

Mrs S Vaughan has decided to step down from her role as Assistant Head with responsibility for the Primary Phase. Therefore, Ms Rhian Griffiths will return to the role of Acting Assistant Head until the Summer. This will mean that Ms Griffiths will be sharing her teaching role with Mrs Vaughan.

Lluniau Ysgol/ School photos

Mae lluniau dosbarthiadau wedi cael eu tynnu cyn hanner tymor. Os hoffech archebu un, yna byddwn yn anfon nodyn arall drwy’r app, gyda linc addas yn fuan.

School class photos were taken recently. We will put another note on the app, with relevant links for each class shortly.

Addysg Gorfforol/ PE.

Mae gwersi addysg gorfforol yn parhau fel arfer gyda dosbarthiadau Ms Griffiths a Mrs Martin yn nofio prynhawn Dydd Mercher. Fodd bynnag rydym yn annog eich disgyblion i ddod â dillad addysg gorfforol hefo nhw yn ddyddiol rhag ofn bod disgyblion yn ymarfer ar gyfer yr athletau.

Mae ychydig o newid wythnos nesaf gan y bydd disgyblion blynyddoedd 3,4,5 a 6 yn cael gwers addysg gorfforol Ddydd Iau 12fed yn hytrach na Dydd Llun a Dydd Mawrth. Bydd blwyddyn 5 a 6 hefyd angen eu gwisg addysg gorfforol brynhawn Dydd Mercher.

PE lessons will remain the same with Ms Griffiths’ and Mrs Martin’s classes swimming on Wednesday. However, we do encourage your child to bring a PE kit with them in their bag every day as we will be practising for athletics.

There is a slight change next week, with Yrs 3,4,5 and 6 having PE on Thursday rather than Monday/ Tuesday. Years 5 and 6 will also need their kit on Wednesday afternoon.

Noson Agored i rieni/ Open Parents evening

Dydd Llun 23ain o Fehefin o 3:30- 5:30yh, bydd Noson Agored i Rieni yn yr ysgol. Bydd hwn yn gyfle i chi ddod a’ch plentyn hefo chi i weld eu gwaith a hefyd gweld dosbarthiadau eraill. Nid oes angen gwneud apwyntiadau. Fodd bynnag gan nad oedd Mrs Martin wedi cael Noson Rieni ffurfiol tymor y gwanwyn, mi fydd apwyntiadau yn cael eu hanfon ar gyfer ei dosbarth hi.

On Monday 23rd of June, from 3:30-5:30pm, there will be a Parents’ Open Evening in school. This is an opportunity for you to bring your child with you to see their work and see other classes too. There is no need to make an appointment. However, as Mrs Martin did not have a formal Parents’ Evening during the Spring term, appointments will be sent out for her class.

Dyddiadau/ Dates

13.06.25– Criced, Cegidfa- Rhai disgyblion bl 5 a 6 (mwy o fanylion i ddilyn)/

                  Cricket in Guilsfield some yr 5 &6 pupils (more details to follow)

19.06.25– Mabolgampau Cynradd 12:30yp (Mwy o fanylion i ddilyn)

                  Primary Sports Day 12:30pm (more details to follow)

23.06.25– Noson Agored 3:30yp-5:30yp

                  Open evening 3:30pm- 5:30pm

25.06.25– Parch Hermione Morris yn cynnal gwasanaeth

                   Rev Hermione Morris coming in to do an assembly

27.06.25– Athletau ardal Llanfyllin

                  Llanfyllin Area Sports.

04.07.25– Diwrnod Trosglwyddo/ Transition Day

07.07.25– Diwrnod HMS Day- Dim disgyblion/ Non pupil Day

08.07.25– Gwasanaeth Bl 6 9:30yb / Yr 6 Assembly 9:30am