Rhagfyr 20fed 2024

Annwyl Rieni a Gofalwyr,

Fel yr ydym yn agosáu at ddiwedd tymor prysur a llwyddiannus, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i chi am eich cefnogaeth barhaus i Ysgol Llanfyllin. Mae eich partneriaeth yn hanfodol i sicrhau’r canlyniadau gorau i’n holl ddisgyblion a bu’n bleser gweithio’n agos gyda chi dros y misoedd diwethaf.

Y tymor hwn cyflwynwyd sawl menter yn y Cyfnod Uwchradd, ac mae’n bleser gen i adrodd eu bod eisoes wedi cael effaith gadarnhaol ar gymuned ein hysgol. Mae gwaharddiad ffonau symudol, amseroedd diwygiedig y diwrnod ysgol, a pholisi gwisg ysgol llymach oll wedi cyfrannu at greu amgylchedd dysgu mwy penodol, parchus a diogel. Mae eich cefnogaeth yn ein cynorthwyo ni i orfodi’r newidiadau hyn wedi bod yn wych, ac rydym yn gwerthfawrogi’n fawr eich rôl wrth wneud y mentrau hyn yn llwyddiant.

Yn y Cyfnod Cynradd, mae wedi bod yn hyfryd gweld twf a datblygiad y disgyblion iau. Mae eu datblygiad mewn sgiliau corfforol, ieithyddol ac academaidd ers mis Medi wedi bod yn rhagorol, yn arbennig y rhai sydd yn dysgu siarad Cymraeg am y tro cyntaf. Braf oedd gweld disgyblion y cyfnod cynradd yn perfformio mor hyderus yn ystod ymarferion ac ym mherfformiadau terfynol y sioeau Nadolig eleni – tysiolaeth glir o’u gwaith caled a’u creadigrwydd.

Ar nodyn personol, rwyf wedi mwynhau cyfarfod â chymaint ohonoch wrth giatiau’r ysgol drwy gydol y tymor. Peidiwch ag oedi cyn dod am sgwrs gyda mi neu unrhyw aelod o fy nhîm pan fyddwch yn ein gweld ar ddyletswydd ar ddechrau neu ddiwedd y diwrnod ysgol. Mae eich cefnogaeth a’ch cyswllt rheolaidd yn helpu ni i gadw at yr ethos Teulu yn yr ysgo sydd yn parhau i fod yn ganolbwynt popeth yr ydym yn ei gyflawni, yn arbennig ar yr adeg yma o’r flwyddyn.

Wrth i ni baratoi ar gyfer y gwyliau, hoffwn ddymuno Nadolig a Blwyddyn newydd hapus, diogel a heddychlon i chi a’ch teuluoedd. Cofiwch fod gwasanaethau ar gael i gefnogi teuluoedd yn ystod cyfnod y Nadolig os bydd angen:
• Gwasanaethau Plant Powys Children’s Services ‘Powys Front Door’:
E bost: csfrontdoor@powys.gov.uk
Ffôn: 01597 827666 (Dydd Llun i Ddydd Iau , 8.45yb – 4.45yp; Dydd Gwener , 8.45yb – 4.15yp)
Am gefnogaeth tu allan i oriau : 0845 054 4847
• NHS 111:
Am gefnogaeth feddygol brys, defnyddiwch y gwasanaeth NHS 111 ar-lein www.111.nhs.uk neu galwch 111 os na allwch gael mynediad i gymorth ar -lein.
• Y Samariaid:
Mae cefnogaeth emosiynol gyfrinachol ar gael 24/7. Galwch 116 123 neu anfonwch ebost at jo@samaritans.org
• Childline:
Am gefnogaeth gyfrinachol i blant a phobl ifanc hyd at eu pen-blwydd yn 19eg oed, ewch i wefan Childline www.childline.org.uk neu galwch 0800 1111.

Nodwch os gwelwch yn dda bydd y tymor newydd yn cychwyn Ddydd Mawrth Ionawr 7fed 2025.

Unwaith eto diolch am eich cefnogaeth barhaus. Edrychwn ymlaen am groesawu’r disgyblion yn ôl ym mis Ionawr i adeiladu ar lwyddiannau’r tymor hwn,

Gyda chofion cynnes

Dewi Owen
Pennaeth
Ysgol Llanfyllin


20th December 2024

Dear Parents and Carers,

As we approach the end of a busy and successful term, I would like to take this opportunity to thank you for your ongoing support of Ysgol Llanfyllin. Your partnership is vital in ensuring the best outcomes for all our pupils, and it has been a pleasure to work closely with you over the past few months.

This term, we introduced several initiatives in the Cyfnod Uwchradd, and I am delighted to report that they have already had a positive impact on our school community. The ban on mobile phones, the revised timings for the school day, and a stricter uniform policy have all contributed to creating a more focused, respectful, and safe learning environment. Your support in helping us enforce these changes has been excellent, and we truly appreciate your role in making these initiatives a success.

In Cyfnod Cynradd, it has been wonderful to witness the remarkable growth and development of our younger pupils. Their progress in physical, linguistic, and academic skills since September has been outstanding, particularly for those learning to speak Welsh for the first time. It was a joy to see all Cyfnod Cynradd pupils performing so confidently during the rehearsals and final performances of this year’s Christmas plays – a true testament to their hard work and creativity.

On a personal note, I have thoroughly enjoyed meeting so many of you at the school gates throughout the term. Please don’t hesitate to stop and chat with me or any member of my team when you see us on duty at the beginning or end of the school day. Your regular contact and support help us maintain our school ethos of Teulu which remains central to everything we do, especially during this special time of year.

As we prepare for the holidays, I would like to wish you and your families a happy, safe, and peaceful Christmas and New Year. Please remember that there are services available to support families during the Christmas period if needed:
• Powys Children’s Services ‘Powys Front Door’:
Email: csfrontdoor@powys.gov.uk
Phone: 01597 827666 (Monday to Thursday, 8.45am – 4.45pm; Friday, 8.45am – 4.15pm)
For out-of-hours support: 0845 054 4847
• NHS 111:
For urgent medical help, use the NHS 111 online service www.111.nhs.uk or call 111 if you’re unable to access help online.
• Samaritans:
Confidential emotional support is available 24/7. Call 116 123 or email jo@samaritans.org
• Childline:
For confidential support for children and young people up to their 19th birthday, visit the Childline website www.childline.org.uk or call 0800 1111.

Please note that the new term will begin on Tuesday, January 7th, 2025.

Thank you once again for your continued support. We look forward to welcoming pupils back in January and to building on the successes of this term.

With warmest wishes,

Dewi Owen
Headteacher
Ysgol Llanfyllin