Os bydd y tywydd yn ffafriol mi fydd mabolgampau ysgol yn cael ei gynnal Dydd Gwener 12fed o Orffennaf. Yn y bore mi fydd y disgyblion yn gwneud cyfres o weithgareddau maes ac yn y prynhawn mi fyddant yn gwneud cystadlaethau trac. Mae croeso i chi ddod i wylio eich plentyn yn rhedeg yn y prynhawn ond yn anffodus, oherwydd bydd y disgyblion yn symud o amgylch y safle ni fyddwch yn cael gwylio yn y bore. Rydym yn gobeithio byddwn yn gallu dechrau’r cystadlaethau rhedeg am 12:30yp ac mi fyddant yn cael eu cynnal lawr wrth safle’r 6ed ar y Cae Pêl droed.

Mae blwyddyn Derbyn, 1 a 2 eisoes wedi derbyn llythyr yn nodi pa dy maent ynddo a dylai bod blynyddoedd 3-6 yn gwybod, fodd bynnag os ydych yn ansicr, gofynnwch i’ch athro dosbarth. Mi fydd lliwiau’r tai fel a ganlyn…

Cain- Coch

Tanat- Gwyrdd

Efyrnwy- Glas

Cynllaith-Melyn

Mi fydd angen i’ch plentyn ddod i’r ysgol ar y diwrnod yma mewn dillad Addysg Gorfforol ond gydag eitem sy’n dangos lliw eu tai.

Ar ddiwedd y cystadlaethau rhedeg, mi fydd y disgyblion yn dychwelyd i’w dosbarthiadau erbyn diwedd y dydd.

Weather permitting, the primary sports day will take place on Friday the 12th of July.

In the morning, the pupils will be taking part in field events and, in the afternoon, it will be track races. You are welcome to come and see your child running in the afternoon. However, as the pupils are moving around the site, you will be unable to watch the morning events. We hope to start the running events at 12:30pm and they will be held down by the 6th Form Centre on the football pitch.

Reception, year 1 and 2 have already received a letter letting them know which ‘house’ they are in and years 3-6 should already know. However, if they are unsure please contact your class teacher. The colours are as follows:

Cain- Red

Tanat- Green

Efyrnwy- Blue

Cynllaith- Yellow.

On this day, your child will need to come to school wearing their PE Kit and an item showing their house colour.

At the end of the running events the pupils will be returning to class