Annwyl Rieni a Gwarchodwyr,

Hoffem estyn diolch enfawr i chi gyd am eich cefnogaeth wych gyda Phrosiect Arddangosfa Dyniaethau ym Mlwyddyn 7. Diolch hefyd Mrs Elen Roberts a’r adran Dyniaethau am ei waith caled yn trefnu’r arddangosfa.

Roedd y prosiectau a ddaeth i mewn yn gwbl syfrdanol! Mae wedi bod yn bleser pur gweld y gwaith yn yr arddangosfa yn y Theatr heddiw, ac mae safon y creadigrwydd a’r ymdrech wedi ein syfrdanu ni i gyd.

Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr yr amser a’r egni rydych chi wedi’u rhoi i helpu eich plentyn gartref, yn enwedig y rheini ohonoch a wnaeth yr ymdrech ychwanegol i ddod â’r prosiectau i’r ysgol yn bersonol am eu bod yn rhy fawr i fynd ar y bws!

Diolch yn fawr iawn am eich amynedd, eich amser, a’ch cefnogaeth barhaus— ni fyddai’r arddangosfa hon wedi bod yn bosibl heboch chi, ac mae eich plant wedi gwneud gwaith arbennig o dda.

Cofion Cynnes

Miss C Jones – Pennaeth Blwyddyn 7 a Throsglwyddo

____

Dear Parents and Guardians,

We would like to extend a massive thank you to you all for your wonderful support with the Year 7 Humanities Exhibition Project. A huge thank you to Mrs Elen Roberts and all the Humanities department for organising the exhibition.

The projects that came in were nothing short of sensational! It has been an absolute pleasure seeing the work on display in our Theatre exhibition today, and the standard of creativity and effort has blown us all away.

We truly appreciate the time and energy you have dedicated to supporting your child at home—especially those of you who went the extra mile to drop the projects off at school in person because they were too big to go on the bus!

Thank you so much for your patience, your time, and your ongoing support. This exhibition would not have been possible without you, and your children have produced work to be fiercely proud of.

Kind regards,

Miss C Jones – Head of Year 7 and Transition