Astudio Gartref
Mae hi wedi bod yn ddechrau ardderchog i’n myfyrwyr chweched dosbarth. Maent yn mwynhau astudio yn ein Canolfan 6ed newydd ac mae’n ymddangos eu bod yn setlo’n dda yn eu pynciau.

Gan fod llawer o fyfyrwyr â sesiynau rhydd yn y bore neu yn y prynhawn a rhai gyda dyddiau cyfan heb unrhyw wersi, rydym wedi penderfynu y gellir defnyddio’r rhain ar gyfer astudio gartref, lle gall myfyrwyr barhau â’u gwaith ysgol, os dymunant. Fodd bynnag, er mwyn cael y fraint hon, yn gyntaf, bydd angen i fyfyrwyr fod wedi cwblhau popeth sydd rhaid iddyn nhw ar y pryd yn eu gwaith Bagloriaeth Cymru ac yn eu pynciau eraill.
Bydd myfyrwyr yn cael gwybod am dasgau Bagloriaeth Cymru y mae angen eu cyflawni bob wythnos. Bob dydd Gwener, byddwn ni’n mynd ati i weld pwy sydd wedi, a phwy sydd heb gwblhau yr hyn sydd rhaid ei wneud yn eu gwaith Bagloriaeth Cymru yn ogystal â’u gwaith ar gyfer y pynciau a ddewiswyd.

Cyn belled â bod myfyrwyr wedi cwblhau popeth sydd angen erbyn bob dydd Gwener, byddant yn cael astudio gartref yr wythnos ganlynol, os dymunant. Os nad ydynt, yna bydd yn ofynnol iddynt aros yn yr ysgol i ddal i fyny, lle gallant gael cymorth a chefnogaeth staff i’w helpu i ddal i fyny, os dymunant. Gwneir hyn o wythnos i wythnos a’r nod yw helpu i sicrhau bod myfyrwyr yn dal i fyny â’u gwaith a ddim ar ei hôl hi.

Byddem yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth gyda hyn. Os nad yw eich mab/ merch wedi gofalu bod ei waith/gwaith ar y pryd wedi’i gwblhau, byddwch yn deall pe bai galwad ffôn adref yn dweud wrthoch bod eich mab/merch fod yn yr ysgol er mwyn dal i fyny.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am hyn, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Cofion cynnes,
Kim Evans (Pennaeth Y Chweched)


Home Study
It has been an excellent start for our sixth form students. They are enjoying studying in our new Canolfan 6ed and seem to be settling down well in their subjects.
Since many students have got free am or pm sessions and some have whole days with no lessons, it has been decided that these can be used for home study, where students can carry on with school work at home, if they wish. However, in order to have this privilege, students need to be up to date with their Welsh Baccalaureate work and with their other subjects first.
Students will be made aware of the Welsh Baccalaureate tasks that need to be met each week. Each Friday, we will establish who is up to date in both their Welsh Baccalaureate and chosen subjects and who is not.

Providing students are up to date each Friday, they will be allowed home study the following week, if they wish. If they are not up to date, then they will be required to stay in school to catch up, where they can have help and support from staff. This will be done on a week to week basis and the aim of this is to help ensure students are up to date with their work and don’t fall behind.

We would appreciate your support with this. If your son/ daughter is not up to date, you will understand if there is a phone call home informing you that your son/daughter should be in school in order to catch up.

If you have any questions regarding this, please do not hesitate to get in touch.

Kind regards,
Kim Evans (Head of Sixth form)