Annwyl Rieni / Gofalwyr

Helpwch eich plentyn gofio bod angen iddynt ddefnyddio’u pas bws ysgol newydd bob dydd.

Fel y gwyddoch, o ddechrau tymor yr Hydref, bydd angen i bob dysgwr sydd â hawl i dderbyn cludiant i’r ysgol, ddangos eu pas bws newydd i’r gyrrwr ar eu ffordd i’r ysgol a’r ffordd adref. Rhaid i ddysgwyr ysgolion cynradd ac uwchradd gofio cario’u pas bws bob dydd.

Rydym wedi argraffu ac anfon mwyafrif y pasys i ddysgwyr presennol a rhai newydd, ond rydym yn ymwybodol bod rhai pasys yn dal i fod gydag ysgolion a bydd angen eu casglu ar ddiwrnod cyntaf y tymor. Os nad yw dysgwr wedi derbyn pas (ac nad yw yn yr ysgol) ac y dylent gael un, e-bostiwch yr uned drafnidiaeth (transport.applications@powys.gov.uk) gydag enw a dyddiad geni’r dysgwr er mwyn gallu gwneud ymholiadau ac anfon cerdyn os oes ganddynt hawl i le ar fws.

Os nad oes gan ddysgwr ysgol uwchradd bas bws ar ddechrau’r tymor, bydd angen mynd i’r dderbynfa wrth gyrraedd yr ysgol ar y diwrnod cyntaf i gael cod unigryw i’w roi i’r gyrrwr ar deithiau nesaf tan i’r pas gyrraedd. Bydd dysgwyr ysgolion cynradd yn cael ychydig o ddiwrnodau ychwanegol er mwyn rhoi cyfle i anfon a derbyn y pasys.

Os ydych chi’n poeni y bydd eich plentyn yn colli’r pas bws, rydym yn eich annog chi i dynnu llun ohono a/neu wneud nodyn o’r cod unigryw er mwyn gallu rhoi’r rhif hwnnw i’r gyrrwr wrth aros am gerdyn arall os bydd ei angen.

Am ragor o wybodaeth am y Pas Bws newydd, ewch i Pasys bws ysgol Powys – Powys

Gwyliwch y fideo byr yma i ddysgu sut i ddefnyddio’r pàs bws ysgol newydd:


Dear parents / carers

Please help your child remember that they will need to use their new school bus pass every day.

As you know, from the beginning of the Autumn term all entitled learners using school transport will need to show their new bus pass to the driver on their way to and from school. Both primary and secondary school learners must remember to have their bus pass with them every day.

We have printed and issued the majority of passes to existing and new learners, however, we are aware that some passes are still at school and will need to be collected on the first day of term. If a learner has not yet received their pass (and the school does not have it) and you believe that they should have one, please email the transport unit (transport.applications@powys.gov.uk) with the learner’s name and date of birth so that we can investigate and issue the card if entitled to travel.

If a secondary school learner does not have a bus pass at the start of term, they will need to report to reception when they get to school on their first day, to get a unique manual code to give to the driver for subsequent journeys, whilst waiting for their pass to be issued. Primary school learners will be given a couple days grace so that any remaining bus passes can be issued and received.

If you are worried that your child may lose their bus pass, we would encourage you to take a photo of the bus pass and/or make a note of the unique manual code which can be given verbally to the driver whilst a replacement card is issued, if needed.

For further information regarding the new School Bus Pass please visit https://en.powys.gov.uk/schoolbuspass

Watch this short video to find out how to use the new school bus pass: