Annwyl Riant a Gofalwr,
Byddwn yn adleoli i’n hadeilad newydd ym mis Medi 2021.
Mae’r staff wedi bod yn brysur yn paratoi ac mae’r contractwyr wedi bod yn brysur fel y gall y symud ddechrau.
Ein nôd fydd sicrhau bod y pontio i blant mor llyfn â phosibl gydag ystafelloedd dosbarth a’r amgylchedd dysgu tu allan yn cael eu paratoi er mwyn i’r disgyblion barhau i ffynnu yn ein hardal newydd cyffrous.
Mae ardal awyr agored newydd y cyfnod cynradd wedi’w ffensio ac mae datblygiadau yr ystafelloedd dosbarth bron wedi’w cwblhau. Yr wythnos hon, byddwn yn rhannu’r gwybodaeth gyffrous gyda’r disgyblion gan ein bod yn awyddus iddynt fod yn rhan o’r broses drwy wneud penderfyniadau a pharatoi ar gyfer eu hamgylchedd dysgu newydd, tu mewn a thu allan. Cyn diwedd y tymor, bydd y disgyblion hefyd yn treulio amser yn eu hystafelloedd dosbarth newydd i ymgyfarwyddo â’r ardal. Mi fydd hyn yn cael ei wneud yn ddiogel yn eu swigod Covid. Byddwn yn rhannu lluniau a fideos o’n taith gyda chi.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn, unwaith eto, i diolch i’r holl rieni, staff a phlant am eu hamynedd a’u cefnogaeth barhaus drwy gydol y cyfnod pontio hwn. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i gyd i’r adeilad newydd.
Yn gywir
Sioned Vaughan
Pennaeth Cynorthwyol
Dear Parent and Carer,
We will be relocating to our new building in September 2021.
The staff have been busy preparing and the contractors have been busy working so the move can begin.
Our aim will be to ensure the transition for children is as smooth as possible with classrooms and the outside learning environment prepared in order for the pupils to continue to thrive in our exciting new space.
The new primary phase outdoor area has been fenced and classroom alterations nearly completed. This week, we will be sharing exciting information with the pupils as we want them to be a part of the decision making and prepare for their new learning environment, indoor and out. Before the end of term, the pupils will also be spending time in their new classrooms to familiarise with the area. This will be done in their Covid secure bubbles. We will be sharing photographs and videos of our journey with you.
I would like to take this opportunity, once again, to thank all parents, staff and children for their continued patience and support throughout this transition. We look forward to welcoming you all to the new building.
Yours Sincerely
Sioned Vaughan
Assistant Headteacher