Mae Siôn Corn yn mynd yn WYRDD eleni! 

Eleni, bydd yn ymweld â’r Cross Keys yn y dref, a hoffai ddosbarthu teganau ail law i roi ychydig o seibiant i’w gorachod.  Os oes gennych deganau o ANSAWDD DDA nad yw eich plentyn yn chwarae a hwy bellach, a fyddech cystal â dod a nhw i’r ysgol Dydd Iau 24ain neu Ddydd Gwener 25ain  a’u rhoi yn y bocs  ger llyfrgell yr ysgol  naill ai yn y bore cyn ysgol ddechrau neu yn y prynhawn cyn mynd adre. 

Diolch o galon am eich haelioni.  Rwy’n siŵr y bydd y plentyn bach sydd yn derbyn yr anrheg yn ddiolchgar iawn.   


Father Christmas is going GREEN this year!

This year, he is visiting the Cross Keys pub in town, and he would like to give out second hand toys to give his elves a break. If you have any HIGH-QUALITY toys that your child no longer plays with, please could you bring them to the school on Thursday 24th or Friday 25th and drop them in the box that will be placed near the school library either before school or before afternoon pick up.

Thank you so much for your generosity. I’m sure the small child who receives the gift will be incredibly grateful.