Er gwybodaeth, wythnos nesaf 23ain- 27ain o Dachwedd mi fydd disgyblion y campws cynradd blynyddoedd 2-6 yn derbyn wythnos asesu. Pwrpas yr wythnos fydd i ni, fel ysgol dderbyn gwybodaeth am gynnydd disgyblion ac hefyd edrych ar gamau nesaf. Mi fydd y disgyblion felly yn derbyn profion bach anffurfiol yn ystod yr wythnos.
For your information, pupils in the primary phase, years 2-6 will be receiving an assessment week next week 23rd- 27th November. The purpose of the week will be for us as a school to gain information about your child’s progress and to look at next steps. Pupils will therefore receive informal tests during the week.