Annwyl Rieni/ Ofalwyr,
Fel yr ydym yn cychwyn wythnos olaf y flwyddyn academaidd hon, hoffwn ddiolch i chi oll am eich cefnogaeth barhaus. Hefyd hoffwn adael i chi wybod fy mod wrth fy modd o fod wedi cael fy mhenodi i swydd Pennaeth Cynorthwyol gyda chyfrifoldeb dros y Cyfnod Cynradd
Cynllun yr wythnos hon –
Dydd Mawrth | Dim Clwb Chwaraeon |
Dydd Iau | Gwasanaeth Gadael Blwyddyn 6 – am 9.30 y bore yn y Theatr |
Dydd Iau/ Dydd Gwener | Mae rhai o’n merched blwyddyn 6 o’r grŵp elusennol wedi bod yn gwneud breichledi i werthu am £1 yr un i godi arian tuag at Dŷ Gobaith. Bydd y rhain ar werth i ddisgyblion Dydd Iau a Dydd Gwener (dim ond un i bob disgybl). |
Dydd Gwener | Yn y prynhawn bydd Darren Mayor gyda ni yn gwerthu Hufen Ia. Os hoffech i’ch plentyn gael hufen ia, yna bydd angen i chi anfon £2.00 gyda nhw i’r ysgol. |
Dydd Gwener | Bydd Blwyddyn 6 (yn unig) yn cael prynhawn chwarae dŵr. Bydd y disgyblion hyn angen tywel, dillad sych, gwn dwr ac ati. |
Edrychwn ymlaen at weld pawb yn ôl ar ddiwrnod cyntaf y tymor –
Dydd Mawrth Medi 2il, 2025
Manteisiaf ar y cyfle hwn i ddymuno gwyliau haf hyfryd i bawb.
Rhian Griffiths,
Pennaeth Cynorthwyol Dros-dro.
Dear Parents/Carers,
As we begin the last week of this academic year, I would like to thank you all for your continued support. I would also like to let you know that I am delighted to have been appointed to the post of Assistant Head, with responsibility for Cyfnod Cynradd.
This weeks plan –
Tuesday | no Sports Club |
Thursday | Year 6 Leavers’ Assembly – 9.30am Theatre |
Thursday/Friday | Some of our Year 6 girls in the Charity Group have been making bracelets to sell for £1.00 to raise money for Hope House. These will be on sale to pupils on Thursday and Friday (only one per pupil). |
Friday | In the afternoon, Darren Mayor will be with us selling ice-creams. If you would like your child to have an ice-cream please send them in to school with £2.00. |
Friday | Year 6 (only) will be having a water play afternoon. Please send them in with a towel and a change of clothes, water pistols etc. |
We will look forward to seeing everyone back on the first day of term –
Tuesday the 2nd of September, 2025.
May I take this opportunity to wish everyone a lovely summer break.
Rhian Griffiths
Acting Assistant Head