DARLLEN

Mae darllen gyda’ch plentyn yn bwysig ac yn rhywbeth fedrwch ei wneud gartref. Cofiwch geisio darllen gyda’ch plentyn cymaint â phosib a chofnodi yn eu llyfr melyn.

Er mwyn ateb unrhyw bryderon am ddarllen a chefnogi darllen adref rydym yn cynnig sesiwn ‘picio mewn’ ar y 29ain o Fedi 2025 ar ôl ysgol tan 4:15yh. Bydd yr athrawon ar gael er mwyn trafod darllen cartref.

Y TYMOR YMA

Ein thema tymor yma fydd ‘Fi a fy Myd’. Er mwyn i chi wybod beth y byddwn yn drafod,  gweler isod  amlinelliad o gynnwys y thema.

Blwyddyn Derbyn, 1 a 2

Y tymor hwn byddwn yn dysgu am ‘Fi a Fy Myd’. Rydym yn gyffrous iawn am ddod i adnabod ein disgyblion newydd a pharhau i wybod mwy am flwyddyn 1 a 2. Ond yn anffodus, mae Penri’r Parot wedi mynd ar goll! Peidiwch â phoeni, byddwn yn dod o hyd iddo ar ôl iddo ddychwelyd o’i daith i Golymbia (ssshhh, dydi’r plant ddim yn gwybod eto).  Byddwn yn dysgu am daith y fanana a chynnyrch Masnach Deg, gan ymarfer patrymau iaith perswâd i’ch annog i feddwl am y cynnyrch rydych yn ei ddefnyddio. Byddwn hefyd yn trafod bwyta’n iach a’r effaith y mae yn ei gael ar ein cyrff. Bydd Pablo y fanana hefyd yn ein dysgu ni am Golymbia a’r Goedwig Law.

Blynyddoedd 3,4,5 a 6

Y tymor hwn byddwn yn archwilio’r thema “Fy hoff far o siocled”, a fydd yn ein harwain trwy amrywiaeth o bynciau cyffrous, o iechyd a lles i wneud penderfyniadau cyfrifol ac ennill dealltwriaeth o hawliau dynol. 

Yn ein trafodaethau iechyd a lles, byddwn yn canolbwyntio ar wneud penderfyniadau gwybodus am yr hyn rydym yn ei fwyta, gan gydnabod sut mae ein penderfyniadau’n effeithio arnom ni’n bersonol ac ar eraill. Bydd hyn yn cysylltu â gwneud penderfyniadau grŵp, lle byddwn yn dysgu pwysigrwydd gwrando ar safbwyntiau gwahanol a gweithio gyda’n gilydd i wneud penderfyniadau sy’n fuddiol i bawb.

Bydd ein gwaith dyniaethau yn ein helpu i ddeall nad yw pawb yn cael eu trin yn deg, ac yn esbonio pam mae’n hollbwysig cydnabod a pharchu hawliau dynol. Byddwn yn archwilio sut gall ein gweithredoedd a’n penderfyniadau gael effaith gadarnhaol neu negyddol ar eraill ac ar y gymuned ehangach. Trwy ddeall safbwyntiau gwahanol, byddwn yn dysgu pa mor bwysig yw ystyried sut mae ein dewisiadau’n effeithio ar y byd o’n cwmpas.

O fewn ein gwersi iaith, byddwn yn canolbwyntio ar ysgrifennu adroddiad cronolegol ac ar ysgrifennu perswadiol, gyda digon o dasgau llafar i wella ein sgiliau siarad a gwrando. Bydd y plant yn cael cyfleoedd i ymarfer rhannu eu syniadau, trafod materion, a pherswadio eraill gyda’u dadleuon. 

Ym mathemateg, byddwn yn canolbwyntio ar rif ac arian wrth i ni baratoi ar gyfer y Ffair Nadolig. Bydd hwn yn ffordd hwyliog ac ymarferol o gymhwyso ein sgiliau a deall gwerth arian, cyllidebau a threfnu. Felly cofiwch ddechrau arbed eich ceiniogau ar gyfer y digwyddiad mawr!

Bydd y plant yn brysur yn cynllunio, yn paratoi ac yn trefnu’r tymor hwn, gyda llawer o gyfleoedd i gymhwyso’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu mewn ffyrdd creadigol ac ymarferol. Mae’n mynd i fod yn dymor gwych a llawn gweithgareddau!

Os nad yw rhieni’n fodlon, neu os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch blasu siocled yn ystod y tymor hwn, yna rhowch wybod i’r athro / athrawes dosbarth cyn gynted â phosibl?


READING

Reading with your child is important, therefore we encourage you to read as much as possible with them and record it in their reading record. In order to help with any concerns you may have about reading or to support home reading, we are offering a ‘drop in’ reading session for you to pop in and discuss any issues with the teachers. This session will be after school on the 29th of September until 4:15pm.

THIS TERM
This term our theme is ‘Me and My World’. In order for you to know what we will be discussing, below is an outline of the content of this theme.

Reception, year 1 and 2

This term we will be learning about ‘Me and My World’. We are very excited to get to know our new students and continue to learn more about Year 1 and 2. But unfortunately, Tomos the Tucan has gone missing! Don’t worry, we will find him after he returns from his trip to Colombia (ssshhh, the children don’t know yet). We will be learning about the journey of bananas and Fair Trade products, practicing persuasive language patterns to encourage the pupils to think about the products we use. We will also be discussing healthy eating and the effect it has on our bodies. Pablo the banana will also teach us about Colombia and the Rainforest.

Years 3,4,5 and 6

This term, we’ll be exploring the theme of “My Favourite Chocolate Bar”, which will guide us through a range of exciting topics, from health and well-being to making responsible decisions and understanding human rights.

In our Health and Well-Being discussions, we’ll focus on making informed choices about what we eat and recognising how our decisions affect both ourselves and others. This will link to group decision-making, where we’ll learn the importance of listening to different viewpoints and working together to make choices that benefit everyone.

Our work will help us to understand that not everyone is treated fairly and why it’s crucial to recognise and respect human rights. We’ll explore how our actions and decisions can have a positive or negative impact on others and the wider community. By understanding different perspectives, we’ll learn how important it is to consider how our choices affect the world around us.

In language, we’ll focus on writing non-chronological reports and persuasive writing, using plenty of oracy tasks to improve our speaking and listening skills. The children will have opportunities to practice sharing their ideas, discussing issues, and persuading others with their arguments.

In maths, we’ll dive into the study of numbers, focusing on money as we prepare for our Christmas Fair. This will be a fun and practical way to apply our skills and understand the value of money, budgeting, and organising. So, make sure to get your pennies saved ready for the big event!

The children will be busy planning, preparing, and organising this term, with lots of opportunities to apply what they’ve learned in creative and practical ways. It’s going to be a fantastic, action-packed term!

If parents are unwilling or have any concerns regarding chocolate taste testing this term, could you please inform the class teacher as soon as possible?