Arholiad Ffug Rhifedd / Numeracy Mock Exams

Annwyl Riant/Ofalwr,

Fel y gwyddoch efallai gan eich plentyn, mae ffug arholiadau Rhifedd ar ddydd Llun 3ydd a dydd Mercher 5ed Gorffennaf i holl ddisgyblion Blwyddyn 10. Mae’r arholiadau hyn yn rhoi cyfle i ddisgyblion weld y math o bapur y byddant yn ei sefyll ac i ni weld os ydynt yn barod i sefyll eu harholiad allanol TGAU Rhifedd ym mis Tachwedd 2023. Bydd y canlyniadau hefyd yn cyfrannu at y penderfyniad pa haen o arholiadau sydd fwyaf addas ar gyfer eich plentyn.

Mae disgyblion wedi bod yn gweithio’n galed ar adolygu yn ystod gwersi a thu allan i’r ysgol gan ddefnyddio deunyddiau adolygu a ddarparwyd gan athrawon dosbarth. Rydym yn annog disgyblion i wneud pob ymdrech gyda’u hadolygu yn y cyfnod cyn yr arholiadau ffug hyn er mwyn rhoi’r cyfle gorau iddynt lwyddo.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon peidiwch ac oedi mewn cysylltu a mi drwy ffonio’r ysgol ar y rhif isod neu gallwch anfon ebost i lep@llanfyllin.powys.sch.uk.

01691 648391


Dear Parent/Carer,

As you may be aware from your child, there are Numeracy mock examinations on Monday 3rd and Wednesday 5th July for all Year 10 pupils. These exams give pupils the opportunity to see the type of paper they will sit and for us to see if they are ready to sit their Numeracy GCSE external exam in November 2023. The results will also contribute to the decision of what tier of exams is best suited for your child.

Pupils have been working hard on revision during lessons and outside of school using revision materials provided by class teachers. We encourage pupils to make every effort with their revision in the build up to these mocks in order to give them the best chance of succeeding.

If you have any questions or concerns, please do not hesitate to email me on lep@llanfyllin.powys.sch.uk or to telephone school on the number below.

01691 648391

Yours sincerely,

Dr. Lewis Pryce 

(Director of Learning for Mathematics and Numeracy, Ysgol Llanfyllin)