Hysbyseb Swydd: Athro/Athrawes CA2
Lleoliad: Ysgol Llanfyllin, Llanfyllin, Powys
Dyddiad Cau: Dydd Gwener 24 Ebrill

Mae Ysgol Llanfyllin yn chwilio am athro neu athrawes CA2 angerddol, greadigol ac ysbrydoledig i ymuno â’n tîm ymroddedig. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y gallu i ysbrydoli dysgwyr ac i ddarparu addysgu o ansawdd uchel sy’n cefnogi cynnydd a lles pob disgybl.

Mae’r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Croesawn geisiadau gan athrawon profiadol ac athrawon ar ddechrau eu gyrfa sy’n ymrwymedig i sicrhau safonau uchel ac i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau dysgwyr. Ceir croeso cynnes i geisiadau amser llawn neu ran-amser.

Wedi’i lleoli mewn ardal wledig brydferth ger ffin Swydd Amwythig, mae Ysgol Llanfyllin yn ysgol bob oed lwyddiannus i ddisgyblion 3 i 18 oed. Rydym yn falch o’n safonau uchel, ein hegwyddor gynhwysol ‘Teulu’, a’n hymdeimlad cryf o gymuned.

Rydym yn chwilio am unigolion sydd yn gallu:

• Ysbrydoli a denu dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 2
• Darparu addysgu o ansawdd uchel, creadigol ac arloesol trwy gyfrwng y Gymraeg
• Defnyddio asesu a data yn effeithiol i gefnogi cynnydd disgyblion
• Ffurfio amgylchedd dosbarth cadarnhaol, diogel a chynhwysol
• Gosod disgwyliadau uchel a hyrwyddo potensial pob disgybl
• Cyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol, gan gynnwys gweithgareddau allgyrsiol
• Weithio’n effeithiol fel rhan o dîm cydweithredol a chefnogol

Yn gyfnewid, rydym yn cynnig:

• Cymuned ysgol groesawgar ac arloesol
• Cyfleoedd rhagorol ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus
• Amgylchedd dysgu modern a chyfoes
• Lleoliad bendigedig gyda chydbwysedd bywyd a gwaith rhagorol

Os ydych chi’n weithiwr proffesiynol brwdfrydig ac uchelgeisiol sy’n chwilio am her newydd mewn ysgol gefnogol ac ysbrydoledig, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

I wneud cais, anfonwch CV a llythyr eglurhaol at: office@llanfyllin.powys.sch.uk

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar 01691 648391

Mae Ysgol Llanfyllin wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc. Mae pob penodiad yn amodol ar wiriad DBS manylach.


Job Advertisement: KS2 Class Teacher
Location: Ysgol Llanfyllin, Llanfyllin, Powys
Closing Date: Friday April 24th

Ysgol Llanfyllin is seeking a passionate, creative and inspiring Key Stage 2 Class Teacher to join our dedicated team. The successful candidate will be able to inspire learners and deliver high-quality teaching that supports the progress and wellbeing of all pupils.

The ability to teach through the medium of Welsh is essential for this role.

We welcome applications from experienced teachers and early career teachers who are committed to high standards and making a genuine difference to learners’ lives. Full-time and/or part-time applications are warmly welcomed.

Located in a beautiful rural setting near the Shropshire border, Ysgol Llanfyllin is a successful all-through school for pupils aged 3 to 18. We pride ourselves on our high standards, inclusive ‘Teulu’ ethos, and strong sense of community.

We are looking for individuals who can:

• Inspire and engage learners in Key Stage 2
• Deliver high-quality, creative and innovative teaching through the medium of Welsh
• Use assessment and pupil data effectively to support progress
• Create a positive, safe and inclusive classroom environment
• Set high expectations and promote the potential of every learner
• Contribute to the wider life of the school, including extracurricular activities
• Work effectively as part of a collaborative and supportive team

In return, we offer:

• A welcoming and forward-thinking school community
• Excellent opportunities for continuous professional development
• A well-resourced, modern learning environment
• A stunning location with excellent work-life balance

To apply, please send a CV and covering letter to: office@llanfyllin.powys.sch.uk

For further information, contact us on 01691 648391

Ysgol Llanfyllin is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people. All appointments are subject to an enhanced DBS check.