Mae’r Corff Llywodraethol yn ceisio cyflogi cynorthwyydd clerigol i ymuno a thîm staff cefnogi prysur yr ysgol.
Byddai profiad mewn rôl debyg o fudd ond nid yw’n hanfodol. Mae’r swydd yn ymofyn am hyblygrwydd gan nad oes dau ddiwrnod yr un fath. Mae ardal y dderbynfa yn brysur a bydd angen i ddeiliad y swydd fod yn barod ac yn hapus i weithio mewn amgylchedd prysur iawn.
Grade 2 Scp 1, 26 awr dros 4 diwrnod yr wythnos. Cyfradd yr awr £12.44. Cyflog Gwirioneddol £14,069. Swydd tymor yr ysgol yn unig yw hon.
Byddai sgiliau Cymraeg yn ddymunol.
Bydd y swydd hon yn gweithio o dan gyfeiriad/gyfarwyddyd, gan ymgymryd â thasgau clerigol, gweinyddol ac ariannol gan ddilyn gweithdrefnau sefydledig.
Caiff gwaith ei ddirprwyo i’r swydd hon a phennir blaenoriaethau gan oruchwyliwr.
Derbynfa:
Ymgymryd â dyletswyddau’r dderbynfa: helpu creu awyrgylch croesawgar, dymunol; derbyn ymwelwyr, danfoniadau/ nwyddau, delio a gweinyddiaeth gysylltiedig (bathodynnau diogelwch, arwyddo nodiadau dosbarthu).
Delio gydag ymholiadau arferol.
Dyletswyddau Swyddfa:
Ymdrin â phost sydd yn dod i mewn a’i ddosbarthu fel y bo’n briodol.
Ymdrin â phost sy’n gadael, paratoi’r taliad, postio, cadw cofnod o’r postio.
Delio gydag ymholiadau ffôn, cymryd negeseuon a’u trosglwyddo fel y bo’n briodol.
Ymgymryd â gweithgareddau/dyletswyddau clerigol arferol e.e. llungopïo, ffeilio, e bostio, cwblhau ffurflenni arferol.
Defnyddio holl systemau’r ysgol – SIMS, Class Charts a phecynnau Microsoft.
Dosbarthu dogfennau a deunyddiau o fewn yr ysgol.
Ariannol:
Ymgymryd â gweinyddiaeth ariannol arferol.
Cofnodion:
Cynnal/ mewnbynnu/ diweddaru / adalw gwybodaeth, data a chofnodion gan ddefnyddio cyfrifiadur neu a llaw, gan ddilyn arferion gosod.
Coladu adroddiadau, dan gyfarwyddyd.
Arall:
Cynorthwyo gyda threfniadau ar gyfer ymweliadau.
Cynorthwyo gyda lles disgyblion/ cymorth cyntaf, cysylltu â rhieni.
Sefyll i mewn ar ran swyddog gweinyddol yr ysgol, ond ni fydd disgwyl cwmpasu’r ystod lawn o ddyletswyddau.
Cymwysterau
Addysgwyd hyd at o leiaf lefel TGAU( neu gyfwerth) yn Saesneg, Cymraeg os oes angen a Mathemateg i fedru creu llythyrau a chadw cofnodion.
Gallu cyflawni tasgau arferol.
Gallu dilyn a chyflawni cyfarwyddiadau gan eraill.
Gallu llunio negeseuon syml.
Deall a medru defnyddio technoleg berthnasol a bod yn berchen ar sgiliau bysellfwrdd /prosesu geiriau.
Gallu adnabod atebion syml i broblemau syml.
Cymhwyso syniadau/ cysyniadau wedi’i eu creu gan eraill.
Os hoffech fwy o wybodaeth am y rôl/ neu am ffurflen gais cysylltwch â Sarah Hunter, 01691 648391 office@llanfyllin.powys.sch.uk.
Mae’r swydd yn amodol ar wiriad manwl GDG.
Dyddiad Cau Dydd Llun Mawrth 24ain 2025.
The Governing Body is seeking to employ a Clerical Assistant to join the school’s busy support staff team. Experience in a similar role would be of benefit but is not essential. The post requires flexibility as no two days are the same. The school reception area is busy and the postholder will need to be prepared and happy to work in a fast-paced environment.
Grade 2 Scp 1, 26 hours over 4 days per week. Hourly rate £12.44. Actual salary £14,069. This is a term time only post.
Welsh language is desirable.
This post will work under direction/instruction, undertaking routine clerical, administrative and financial tasks following established procedures.
Work is delegated to this post and priorities are determined by a supervisor.
Reception:
Undertake reception duties: help to create a pleasant welcoming atmosphere; receive visitors, deliveries/goods, dealing with associated administration (security badges, signing delivery notes).
Deal with routine enquiries.
Office duties:
Handle incoming mail and distribute as appropriate.
Handle outgoing mail, franking, posting, maintaining records of postage.
Deal with telephone enquiries, take messages and pass on as appropriate.
Undertake routine clerical activities/duties, e.g. photocopying, filing, emailing, completing routine forms.
Use of all school systems – SIMS, Class Charts & Microsoft packages.
Distribute documents and materials within the school.
Financial:
Undertake routine financial administration.
Records:
Maintain /input /update / retrieve information, data and records using computer or manually, following set routines.
Collate reports, under direction.
Other:
Assist with arrangements for visits.
Assist with pupil welfare/first aid, liaising with parents.
Stand in for the school admin officer, but would not be expected to cover the full range of duties.
Qualifications:
Educated to at least GCSE level (or equivalent) in English, Welsh if required and Maths to be able to create letters and maintain records.
Able to carry out routine tasks.
Able to carry out instructions from others.
Able to compile simple messages.
Understand and able to use relevant technology and has keyboard/word processing skills.
Able to identify straightforward solutions to simple problems.
Applies ideas/concepts created by others.
If you would like more information about this role and/or an application form, please contact Sarah Hunter, 01691 648391 office@llanfyllin.powys.sch.uk.
The post is subject to an enhanced DBS check.
Closing date Monday March 24th 2025.