Annwyl Rieni / Ofalwyr Blwyddyn 7,
Rydym wedi cael gwybod bod rhai achosion o lau pen wedi cael eu canfod ymhlith rhai disgyblion ym Mlwyddyn 7 yn ddiweddar. Mae llau pen yn gyffredin iawn mewn ysgolion ac nid oes ganddynt unrhyw gysylltiad â hylendid.
Yn unol â chanllawiau iechyd y GIG, gofynnwn yn garedig i chi wirio gwallt eich plentyn (ac aelodau eraill o’r cartref) er mwyn dal unrhyw achosion yn gynnar:
- Sut i wirio: Y ffordd orau o gadarnhau llau pen yw drwy cribo’r gwallt tra’n wlyb gyda chrib dannedd mân, ar ôl golchi gwallt gyda siampŵ a ddefnyddio digon o sebon llyfnu gwallt, gan gribo o dop y pen I’r gwaelod. Dim ond os gwelwch lau byw y dylid dechrau triniaeth.
- Triniaeth: Dechreuwch drin ar unwaith os canfyddir llau byw, a thriniwch unrhyw aelodau eraill o’r cartref sydd â llau ar yr un diwrnod. Mae cribo gwlyb rheolaidd (ee. ar ddiwrnodau 1, 5, 9 a 13, gyda gwiriad terfynol ar ddiwrnod 17) yn effeithiol, neu gallwch ofyn i fferyllydd am eli neu chwistrell feddyginiaethol. Yng Nghymru, mae llau pen wedi’u cynnwys o dan Gynllun Anhwylderau Cyffredin y GIG, sy’n cynnig cyngor a thriniaeth am ddim mewn fferyllfeydd sy’n cymryd rhan.
- Presenoldeb yn yr ysgol: Nid oes angen cadw eich plentyn oddi wrth yr ysgol oherwydd llau pen, ac nid oes angen golchi dillad gwely ar dymheredd poeth.
Diolch am eich cefnogaeth.
________
Dear Year 7 Parents / Carers,
We have been made aware that a few cases of head lice have recently been found among pupils in Year 7. Head lice are very common in school-aged children and have nothing to do with hygiene.
In line with NHS health guidance, we kindly ask that you check your child’s hair (and other household members) so any cases can be spotted early:
- How to check: The only way to be sure someone has head lice is by finding live lice. The recommended method is “wet combing” using a fine-toothed detection comb on hair washed with ordinary shampoo and coated with plenty of conditioner, combing from roots to ends. Only treat if live lice are found.
- Treatment: Start treatment as soon as live lice are spotted, and treat anyone in the household with head lice on the same day. Repeat wet combing on days 1, 5, 9, and 13 (checking again on day 17), or speak to a pharmacist about a medicated lotion or spray if needed. In Wales, head lice is covered under the NHS Common Ailments Scheme for free pharmacy advice and treatment.
- School attendance: There is no need to keep your child off school if they have head lice, and there is no need to do a hot wash of your laundry.
Thank you for your support.
