“Dysgu gyda’n gilydd, tyfu gyda’n gilydd”
Croeso i Ysgol Llanfyllin; ysgol pob oed, a sefydlwyd ym mis Medi 2020 ar ôl i Ysgol Gynradd Sirol Llanfyllin ac Ysgol Uwchradd Llanfyllin gael eu huno. Rydym yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg i ddisgyblion 4-18 oed ar ein campws hardd. Yn Ysgol Llanfyllin ein gweledigaeth yw y byddwn gyda’n gilydd yn darparu addysg a chyfleoedd dysgu o’r ansawdd uchaf i bob disgybl ym mhob cyfnod o’r ysgol. Ein hymrwymiad yw darparu addysgu hynod effeithiol ac arloesol er mwyn i’n pobl ifanc dyfu i fod yn:
- Dysgwyr uchelgeisiol a galluog
- Cyfranwyr mentrus a chreadigol
- Dinasyddion moesegol a gwybodus
- Unigolion iach a hyderus
Yn bwysicaf oll, rydym yn ysgol hapus gyda ‘Teulu’ yn ganolog iddi. Dewi Owen, Pennaeth