Cyfarfod â rhai o’n staff a’u clywed yn siarad am eu Meysydd Dysgu

Communications, English & Literacy

Yn Ysgol Llanfyllin, ein nod yw sicrhau bod dysgwyr yn datblygu’r gallu i gyfathrebu mewn amryw o ffurfiau sy’n eu galluogi i fod yn ddinasyddion byd-eang hyderus a pharchus. Dylent fod yn ddysgwyr gwydn ac uchelgeisiol sydd yn medru cyfathrebu o fewn gwahanol   ddiwylliannau a chymunedau. Gan ddefnyddio ein hethos TEULU, maent yn cydymdeimlo ag eraill drwy eu gwerthfawrogiad ehangach o lenyddiaeth. Maent yn ymateb yn greadigol i ystod o destunau ac yn eu defnyddio i ddylanwadu ar y ffordd y maent yn cyfathrebu.

Cyfathrebu Cymraeg a Ieithoedd

Yn Ysgol Llanfyllin ein nod yw sicrhau bod ein dysgwyr yn datblygu i fod yn ieithyddion uchelgeisiol sydd ddim ofn bod yn greadigol wrth ddysgu a defnyddio  ieithoedd. Rydym am i’n dysgwyr fod yn gyfathrebwyr hyderus sydd wedi’u cyffroi gan gyfoeth o lenyddiaeth. Rydym ni am i’n dysgwyr ddod yn ymholwyr wrth iddynt wneud cysylltiadau rhwng ieithoedd a cheisio cyfleoedd i ymarfer.  Drwy ein hethos TEULU, ein nod yw ysbrydoli  dysgwyr i fod yn ddinasyddion moesol sy’n cofleidio Cymru ddwyieithog ac yn parchu ieithoedd a diwylliannau eraill.

Celfyddydau Mynegiannol

Dyniaethau

Yn Ysgol Llanfyllin ein nod yw sicrhau bod dysgwyr, yn dod yn ddinasyddion moesegol, a gwybodus o Gymru a’r byd. Rydym yn ymdrechu i hyrwyddo dealltwriaeth o sut y mae pobl Cymru, ei chymunedau, hanes diwylliant, tirwedd, adnoddau a diwydiannau yn cydberthyn a gweddill y byd. Gyda Teulu wrth wraidd ein cwricwlwm newydd, ein gweledigaeth yw meithrin ymdeimlad o “berthyn” sydd yn annog dysgwyr i gyfrannu’n gadarnhaol i’w cymunedau.  Ein nod yw ysbrydoli dysgwyr i werthfawrogi’r rôl sylfaenol mae’r Dyniaethau  yn chwarae wrth greu  unigolion uchelgeisiol , mentrus, hyderus a rhagweithiol , yn barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o’r gymdeithas.

Gwyddoniaeth

Mae’r Maes Dysgu Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn Ysgol Llanfyllin yn ymdrechu i herio ein disgyblion i fod yn arloesol a chreadigol. Rydym yn gwneud hyn drwy addysgeg ddyheadol i ddatblygu unigolion iach, hyderus a gwydn.   Mae datblygu gwybodaeth, cysylltu damcaniaeth a sgiliau ymchwil yn meithrin chwilfrydedd gwyddonol cryf yn ein dysgwyr gydol oes.

Iechyd a Lles

Yn Ysgol Llanfyllin, ein nod yw sicrhau bod lles corfforol, meddyliol ac emosiynol ein dysgwyr  wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym yn ymdrechu i greu diwylliant ysgol sydd yn galluogi ein dysgwyr i fod yn unigolion iach, hyderus a gwydn sy’n dangos meistrolaeth mewn llythrennedd corfforol. Drwy ddefnyddio ein hethos TEULU yn sylfaen ar gyfer ein cwricwlwm newydd, ein nod yw ysbrydoli dysgwyr i gydnabod a gwerthfawrogi’r rôl sylfaenol y mae iechyd a lles yn ei chwarae  wrth greu unigolion  uchelgeisiol, llawn cymhelliant  sydd yn barod i ddysgu  drwy gydol eu hoes.

Mathemateg a Rhifedd

Yn Ysgol Llanfyllin, rydym yn gweithio i sicrhau fod ein holl ddysgwyr yn defnyddio eu sgiliau mathemateg a rhifiadol hyd eithaf eu gallu.  Ein nod yw datblygu hyder disgyblion wrth wneud penderfyniadau rhifiadol gwybodus y gallant wedyn eu defnyddio yn eu bywydau a’u gyrfaoedd. Er mwyn cyflawni hyn, ein nod yw rhoi cyfleoedd i bob disgybl gymhwyso eu sgiliau tra’n mwynhau profiad dysgu gwerth chweil.

Technoleg