Pontio Ysgolion Cynradd ac Uwchradd

Gall symud o ysgol gynradd i ysgol uwchradd fod yn amser cyffrous llawn profiadau newydd i’r mwyafrif, yn ogystal ag ehangu gorwelion. Sut bynnag, gall fod yn amser ansicr a heriol i rai.

Rydym yn ysgol fach groesawgar. Mae ein rhaglen bontio wedi ei chynllunio i wneud symud o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd mor rhwydd a phleserus a phosib. Drwy weithio mewn partneriaeth a’n hysgolion cynradd sy’n bwydo, rydym wedi datblygu cysylltiadau cryf, er mwyn sicrhau pontio llwyddiannus i’n disgyblion. Mae Ysgol Llanfyllin hefyd yn gweithio yn agos gyda rhieni a theuluoedd i helpu cynllunio ac i baratoi disgyblion ar gyfer symud ymlaen.

Yn draddodiadol mae’r rhaglen pontio yn cynnwys:

  • Sesiynau taro i mewn wedi’u trefnu gyda’r Rheolwr Cynnydd ar gyfer rhieni a disgyblion yn ystod Tymor yr Hydref cyn gwneud eu dewis o ysgol uwchradd.
  • Noson Agored yn ystod Tymor yr Hydref i ddisgyblion, rhieni a gofalwyr gael gweld yr ysgol a chael profiad o weithgareddau yn y dosbarthiadau.
  • Llyfrynnau gwybodaeth am Ysgol Llanfyllin i rieni a disgyblion.
  • Dau ddiwrnod ymsefydlu/pontio tua diwedd Tymor yr Haf i ddisgyblion gael profiad o wersi blasu, gweld rhediad yr ysgol fel y mae o ddiwrnod i ddiwrnod, cyfarfod a ffrindiau a staff newydd ac ymgyfarwyddo gydag ysgol newydd.
  • Yn gynnar yn ystod Tymor yr Hydref bydd noson groesawu Blwyddyn 7 i rieni gyfarfod ac athrawon dosbarth ac i roi cyfle rieni drafod y trosglwyddo a rhoi adborth i’r ysgol .
  • Cefnogaeth fugeiliol am drosglwyddo i’r disgyblion yn ystod eu hanner tymor cyntaf yn dilyn y trosglwyddo drwy raglen strwythuredig yn ystod amser dosbarth.
  • Cysylltiad agos ac effeithiol rhwng ysgolion cynradd ac Ysgol Llanfyllin i ddarparu cyngor ac arweiniad.

Dyma enghraifft o basbort pontio disgyblion y bydd disgyblion yn ei dderbyn ar eu diwrnodau pontio ym mis Gorffennaf.

Trafnidiaeth Ysgol

I wneud cais am drafnidiaeth ysgol ac ar gyfer cwestiynau am drafnidiaeth, dilynwch y dolenni isod:

Gwefan Cyngor Powys: Gwneud Cais am Gludiant Ysgol – Cyngor Sir Powys

Manylion cyswllt Tanat Valley: Contact (tanat.co.uk)