Mae Gyrfa Cymru yn darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad diduedd ac am ddim i bob oedran. Mae’r gwasanaeth ar gyfer unrhyw un sy’n gwneud penderfyniadau am addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth.

Mae Cynghorydd Gyrfa Cymru yn ymweld â’r ysgol ddwywaith yr wythnos yn ystod y tymor. Mae myfyrwyr yn cael eu hannog i wneud apwyntiad trwy eu Pennaeth Blwyddyn.

Fel arall, gall myfyrwyr ymweld â gyrfacymru.llyw.cymru am ragor o wybodaeth am ddewis opsiynau, cyrsiau, swyddi, prentisiaethau a hyfforddiant yn ogystal â gwasanaeth sgwrs ar y we.

Mae llinell Gymorth Gyrfa Cymru ar gael i bobl o bob oed ar: 0800 028 4844.

Agorwch y llyfryn canlynol i gael manylion cyswllt ar gyfer aelodau’r tîm Gyrfa Cymru sy’n cefnogi Ysgol Uwchradd Llanfyllin. Mae’r llyfryn yn amlinellu’r gwasanaeth mae Gyrfa Cymru yn ei gynnig, ac hefyd yn cynnwys dolenni at wybodaeth, adnoddau a gweithgareddau sydd ar gael ar gyrfacymru.llyw.cymru

CLICIWCH YMA I AGOR Y LLYFRYN