Siarter Iaith Ysgol Llanfyllin
Yma yn Ysgol Llanfyllin, rydym yn falch o gefnogi menter Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru yn ei nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae gan y Criw Cymraeg ffocws ar gyflawni’r nod o sicrhau bod dysgwyr yn:
hyderus wrth ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg
meithrin agweddau cadarnhaol at yr iaith
cynyddu’r defnydd o’r iaith tu fewn a thu allan i’r ysgol.
Gall dwyieithrwydd ddod â llawer o fanteision:
Gall dysgwyr sy’n deall mwy nag un iaith feddwl yn fwy creadigol a chyda mwy o hyblygrwydd ac maent yn tueddu i wneud yn well mewn profion IQ
Mae bod yn ddwyieithog yn cael effaith gadarnhaol ar yr ymennydd trwy ei gadw’n actif yn ddiweddarach mewn bywyd
Gall bod yn ddwyieithog leihau’r risg o ddementia
Yng Nghymru, mae gallu siarad Cymraeg yn rhugl yn sgil ychwanegol gwerthfawr a fydd yn rhoi mantais i’ch plentyn wrth chwilio am waith.
Mae bod yn ddwyieithog yn rhoi mynediad i ddau ddiwylliant gwahanol a dau fyd o brofiad
Mae pobl ddwyieithog yn ei chael yn haws dysgu trydedd iaith ac yn dangos mwy o oddefgarwch tuag at ddiwylliannau eraill
Ledled Cymru mae plant dwyieithog yn tueddu i gael canlyniadau gwell – gan gynnwys yn Saesneg
Taith at Ddwy Iaith: manteision dewis addysg Gymraeg – Cyngor Sir Powys
Ydych chi, rhieni/gofalwyr, eisiau gwella eich sgiliau Cymraeg? Ydych chi, rhieni/gofalwyr, eisiau gwella eich sgiliau? Beth am gofrestru ar gyfer un o’r nifer o adnoddau a chyrsiau ar-lein sydd ar gael i chi!