Prif gonsyrn yr holl rieni a’r gofalwyr ydy bod eu plant yn hapus yn eu hysgol.  Mae plant hapus yn ddysgwyr uchelgeisiol a hyderus sy’n llwyddo ar draws amrywiaeth o bynciau a phrofiadau yn yr ysgol.

Bydd yr ymdeimlad o Deulu yn greiddiol yn ein hysgol newydd ni. Bydd yr ethos hwn yn un o ofal, o feithrin, o sefydlogrwydd ac uchelgais. Bydd teulu ein hysgol yn gwerthfawrogi ac yn ysgogi cydgyfrifoldeb, goddefgarwch ac agwedd meddwl agored tuag at ein gilydd a’n dysgu. Mae pob teulu’n wynebu amseroedd anodd ac weithiau mae’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd. Dydy ysgolion ddim yn wahanol yn hyn o beth ac ar adegau heriol mae’n ofynnol bod gennym arweinyddiaeth cryf a chadarn i allu arwain yr ysgol yn ei blaen.