Ysgol Llanfyllin ydy’r ail ysgol pob oed yn Mhowys. Cafodd ei sefydlu ym Medi 2020 ar ôl cyfuno Ysgol Gynradd Llanfyllin ac Ysgol Uwchradd Llanfyllin. Mae’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg ar gyfer disgyblion 4 -18 oed ar safleoedd yr ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd.
Mae’r ysgol wedi’i seilio ar ein 5 egwyddor sylfaenol:
- Canolfan flaengar, arloesol a chynhwysol ar gyfer dysgu gydol oes
- Ysgol newydd sydd â sicrwydd ansawdd a gwella ysgol yn greiddiol iddi
- Ysgol newydd â chwricwlwm newydd
- Ysgol newydd sydd wedi ymrwymo i hybu a datblygu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg
Ac yn bwysicaf oll,
- Ysgol hapus gyda’r syniad o ‘Deulu’ yn ganolog.
Mae sefydlu’r ysgol wedi dod ar amser cyffrous i’r cyngor wrth iddo ddechrau cyflawni’r Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys, strategaeth 10 mlynedd uchelgeisiol i wella’r ddarpariaeth addysgol a hawliau dysgwyr y sir.