“Dysgu gyda’n gilydd, tyfu gyda’n gilydd”
James Edwards – Blwyddyn 6, 2022-23.
(Fel y pleidleisiwyd drosto gan fyfyrwyr, staff a llywodraethwyr)
Ein gweledigaeth
Yn Ysgol Llanfyllin ein gweledigaeth yw y byddwn gyda’n gilydd yn darparu addysg a chyfleoedd dysgu o’r ansawdd uchaf i bob disgybl ym mhob cyfnod o’r ysgol.
Ein hymrwymiad yw darparu addysgu hynod effeithiol ac arloesol er mwyn i’n pobl ifanc dyfu i fod yn:
- Dysgwyr uchelgeisiol a galluog
- Cyfranwyr mentrus a chreadigol
- Dinasyddion moesegol a gwybodus
- Unigolion iach a hyderus