Mr D. Owen

Rwy’n ei hystyried yn fraint mai fi ydy Pennaeth cyntaf erioed Ysgol Llanfyllin: ysgol pob oed sy’n darparu addysg ddwyieithog ar gyfer disgyblion 4-18 oed. Mae gennym ni dîm rhagorol o athrawon a staff cymorth sy’n darparu cwricwlwm cyfoethog a chyffrous i’r dysgwyr i gyd – o’r ieuengaf yn ein Cyfnod Sylfaen hyd at yr hynaf yn ein 6ed dosbarth.

Pan ddechreuais i yn y proffesiwn fel athro ifanc ym Manceinion, roeddwn i wedi ymrwymo i gynnig y dechrau addysgol gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn, waeth beth oedd eu cefndir neu eu magwraeth. Dydy fy mhrofiad dysgu ac arwain ym Manceinion a Chanolbarth Cymru ddim ond wedi cadarnhau’r ymrwymiad hwn gan fy mod wedi gweld drosof fy hun sut mae ysgolion â gallu rhyfeddol i drawsffurfio bywydau a datgloi’r holl botensial sy’n gorwedd o fewn ein pobl ifanc – beth bynnag fo’u hamgylchiadau. Er mwyn harneisio’r gallu hwn, mae’n ofynnol bod gan ysgolion athrawon ac arweinwyr cryf, angerddol, arloesol a blaengar sy’n gallu ysbrydoli’r disgyblion i gyd i gyflawni’u potensial llawn.

Rydyn ni hefyd yn ddiolchgar am gefnogaeth barhaus y bobl sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal arbennig hon, ac rydyn ni’n ymdrechu i ymgysylltu a grymuso’r gymuned ehangach hon i feithrin awyrgylch o gydymddiriedaeth a chydweithredu, er lles pawb.

Mae’r syniad o ‘Deulu’ wrth wraidd ein gwerthoedd ac yn un rydyn ni’n ei drysori. O dan fy arweinyddiaeth i, bydd yr ethos teuluol yn greiddiol i’n hysgol newydd ni.  Bydd yr ethos hwn yn un o ofal, o feithrin, o sefydlogrwydd ac uchelgais. Bydd teulu ein hysgol yn gwerthfawrogi ac yn ysgogi cydgyfrifoldeb, goddefgarwch ac agwedd meddwl agored tuag at ein gilydd a’n dysgu. Mae pob teulu’n wynebu amseroedd anodd ac weithiau mae’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd. Dydy ysgolion ddim yn wahanol yn hyn o beth, ac ar adegau heriol mae’n ofynnol bod gennym arweinyddiaeth cryf a chadarn i allu arwain yr ysgol yn ei blaen.

Fel siaradwr Cymraeg rhugl, rwy’n cael y fraint o gyfathrebu â llawer o staff, myfyrwyr a rhieni trwy gyfrwng y Gymraeg. Wedi cael fy magu yn rhan o gymuned Gymraeg y Trallwng ac wedi derbyn fy addysg yn yr adran fabanod a fy addysg gynradd trwy gyfrwng y Gymraeg, rwy’n teimlo’n gryf y dylai myfyrwyr gael y cyfle i gael eu haddysg trwy gyfrwng yr iaith o’u dewis, o fewn eu cymuned eu hunain.

Dewi Owen, Pennaeth