Annwyl Rieni/Ofalwyr.

Rwyf yn ysgrifennu i’ch hysbysu o’r trefniadau o gwmpas wythnosau olaf yr ysgol ar gyfer blwyddyn 11. Mae rhai dyddiadau a digwyddiadau allweddol yr hoffwn dynnu eich sylw atynt:

O ddydd Mercher Mai 19egAbsenoldeb astudio wedi’i gytuno ar gyfer myfyrwyr unigol.

Os yr ydych yn teimlo y byddai eich plentyn yn elwa o astudio adref ar gyfer eu hasesiadau terfynol, cysylltwch â’r ysgol os gwelwch yn dda, a byddwn yn ystyried y ceisiadau hyn fesul achos.

Dydd Llun Mai 24ain – asesiadau terfynol yr ystafell ddosbarth i gael eu cwblhau

Bydd disgyblion yn cwblhau’r holl asesiadau a drefnwyd erbyn amser cinio dydd Llun. Byddwn yn marcio’r ffaith fod y mwyafrif o’r disgyblion yn ein gadael ar y diwrnod hwn gyda gwasanaeth  arbennig, seremoni gwobrwyo a digwyddiadau eraill yn ystod y prynhawn.

Dydd Mawrth Mai 25ain – Dydd Gwener Mai 28ain Gwaith cymorth wedi’i dargedu gyda disgyblion unigol a grwpiau penodol.

Bydd yn ofynnol i rai grwpiau fynychu’r ysgol ar ddiwrnodau penodol i sicrhau fod eu portffolio o dystiolaeth a’i holl asesiadau wedi cael eu cwblhau yn gyflawn. Bydd yr ysgol yn cysylltu â chi os bydd angen i’ch plentyn fynychu’r sesiynau ychwanegol hyn.

Mr D. Owen


Dear Parents/Carers.

I am writing to inform you of the arrangements around the last weeks of schooling for year 11. There are some key dates and events I would like to draw your attention to:

From Wednesday 19th May – Agreed study leave for individual students.

If you feel your child would benefit from studying at home for their final assessments, please contact the school and we will consider these requests on a case-by-case basis.

Monday 24th May – final classroom assessments to be completed.

Pupils will complete all scheduled assessments by Monday lunchtime. We will be marking the fact that the vast majority of pupils will be leaving us on this day with a special assembly, an awards ceremony and other events during the afternoon.

Tuesday 25th May – Friday 28th May – Targeted support work with specific individual pupils and groups.

Some individuals and groups will be required to attend school on certain days to make sure their portfolio of evidence and all assessments have been fully completed. School will contact you if your child is required to attend these additional sessions.

Mr D. Owen