Hoffem wahodd holl ddarpar ddisgyblion Blwyddyn 12 i’n bore pontio Blwyddyn 11 i Flwyddyn 12 ar Ddydd Gwener 5ed o Orffennaf. Bydd hwn yn gyfle gwych i fyfyrwyr sy’n bwriadu ymuno â ni ym mis Medi weld eu ffrindiau eto, cyfarfod staff y Chweched Dosbarth ac i edrych o gwmpas Canolfan y Chweched.
Dyma’r cynllun ar gyfer y diwrnod:
9:00 y.b.- Cyfarfod yng Nghaffi Cain, Canolfan y Chweched
9.15y.b. -12.30y.p. – Taith o gwmpas Canolfan y Chweched, cyfarfod â rhai o’n myfyrwyr
Blwyddyn 12 cyfredol a chymryd rhan mewn gweithgareddau adeiladu tîm hwyliog.
A fyddech cystal â threfnu bod eich plentyn yn cael ei gasglu am 12.00 y.p. os gwelwch yn dda.
I’r myfyrwyr sydd wedi dewis pynciau ym Mhro Caereinion a/neu yn Ysgol Uwchradd Trallwng, mae cyfle i chi gwrdd â Phennaeth y Chweched Dosbarth yn yr ysgolion hyn a chael taith o amgylch yr ysgol cyn ddechrau ym mis Medi. Bydd Mr. Sam Andrews (Bro Caereinion) a Miss Mari Jones (WHS) ar gael rhwng 12:30 p.m. a 1:30 p.m. i gyfarfod a sgwrsio â myfyrwyr ar ôl ein bore pontio.
Rydym yn mawr obeithio y gall eich plentyn ymuno â ni am y bore hwn ac fe edrychwn ymlaen yn fawr at eu croesawu i’n Canolfan Chweched!
We would like to invite all prospective Year 12 pupils to our Year 11 to 12 transition morning on Friday, 5th July. This will be an excellent opportunity for students who plan to join us in September to see their friends again, meet some of the Sixth Form staff, and have a look around the Sixth Form Centre.
The plan for the day is as follows:
9:00 a.m. – Meet in Caffi Cain in the Sixth Form Centre.
9:15 a.m. – 12:00 p.m. – Tour of the Sixth Form Centre, meet some of our current Year 12 students, and participate in fun team-building activities.
Please arrange pick-up for 12:00 p.m.
For those students who have chosen subjects in Bro Caereinion and/or Welshpool High, there is an opportunity for you to meet the Head of Sixth Form at these schools and to have a tour of the school before starting in September. Mr. Sam Andrews (Bro Caereinion) and Miss Mari Jones (WHS) will be available from 12:30 p.m. to 1:30 p.m. to meet and chat with students after our transition morning.
We really hope your child can join us in the morning, and we very much look forward to welcoming them to our Sixth Form Centre!