Hysbyseb Swydd: Cyfleoedd Addysgu yn Ysgol Llanfyllin
Swydd: Athro (Pynciau Amrywiol)
Lleoliad: Ysgol Llanfyllin, Llanfyllin, Powys
Dyddiad Cau: Dydd Gwener 9 Mai 2025
Mae Ysgol Llanfyllin yn chwilio am staff addysgu dawnus ac angerddol i ymuno â’n tîm ymroddedig. Rydym yn croesawu ceisiadau gan athrawon ar draws ystod o arbenigeddau pwnc sydd wedi ymrwymo i ddarparu addysg o ansawdd uchel a chael effaith gadarnhaol ar fywydau dysgwyr.
Mae croeso cynnes i geisiadau amser llawn a/neu ran-amser.
Wedi’i lleoli mewn lleoliad gwledig hardd ger y ffin â Swydd Amwythig, mae Ysgol Llanfyllin yn ysgol pob oed lwyddiannus ar gyfer disgyblion 3 i 18 oed. Rydym yn ymfalchïo yn ein safonau uchel, ethos ‘Teulu’ cynhwysol, a’n hymdeimlad cryf o gymuned. Gyda chysylltiadau rhagorol â’r Trallwng, Croesoswallt a’r ardaloedd cyfagos, mae’r ysgol yn cynnig cydbwysedd delfrydol rhwng llonyddwch gwledig a hygyrchedd i amwynderau lleol.
Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan ymgeiswyr sydd ag arbenigedd yn y pynciau canlynol:
• Science / Gwyddoniaeth
• Drama
• Amaethyddiaeth
• Technoleg Dylunio
• Celf / Tecstilau
• Sbaeneg
Mae’r gallu i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol iawn, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer pob rôl.
Rydym yn chwilio am unigolion a all:
• Ysbrydoli ac ennyn diddordeb dysgwyr ar draws Cyfnod Allweddol 3 i Safon Uwch
• Darparu addysgu a dysgu arloesol o ansawdd uchel
• Meithrin amgylchedd dosbarth cadarnhaol a chynhwysol
• Cyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol, gan gynnwys gweithgareddau allgyrsiol
• Gweithio’n effeithiol fel rhan o dîm cydweithredol a chefnogol
Yn gyfnewid, rydym yn cynnig:
• Cymuned ysgol groesawgar a blaengar
• Cyfleoedd datblygiad proffesiynol rhagorol
• Amgylchedd dysgu modern sydd ag adnoddau da
• Lleoliad syfrdanol gyda photensial gwych o ran cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
Os ydych chi’n weithiwr proffesiynol brwdfrydig sy’n chwilio am her newydd mewn lleoliad cefnogol ac uchelgeisiol, byddem yn falch iawn o glywed gennych.
I wneud cais, cysylltwch a’r ysgol ar office@llanfyllin.powys.sch.uk am ffurflen gais. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar 01691 648391. Mae Ysgol Llanfyllin wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc. Mae pob penodiad yn amodol ar wiriad DBS manylach.
Job Advertisement: Teaching Opportunities at Ysgol Llanfyllin
Position: Teacher (Various Subjects)
Location: Ysgol Llanfyllin, Llanfyllin, Powys
Closing Date: Friday May 9th 2025
Ysgol Llanfyllin is seeking talented and passionate teaching staff to join our dedicated team. We welcome applications from teachers across a range of subject specialisms who are committed to delivering high-quality education and making a positive impact on learners’ lives.
Full-time and/or part-time applications are warmly welcomed.
Located in a beautiful rural setting near the Shropshire border, Ysgol Llanfyllin is a successful all-through school for pupils aged 3 to 18. We pride ourselves on our high standards, inclusive ‘Teulu’ ethos, and strong sense of community. With excellent links to Welshpool, Oswestry and surrounding areas, the school offers an ideal balance between rural tranquillity and accessibility to local amenities.
We are particularly keen to hear from applicants with expertise in the following subjects:
• Science / Gwyddoniaeth
• Drama
• Agriculture
• Design Technology
• Art / Textiles
• Spanish
The ability to teach through the medium of Welsh is highly desirable, but not essential for all roles.
We are looking for individuals who can:
• Inspire and engage learners across Key Stage 3 to A-Level
• Deliver high-quality, innovative teaching and learning
• Foster a positive and inclusive classroom environment
• Contribute to the wider life of the school, including extracurricular activities
• Work effectively as part of a collaborative and supportive team
In return, we offer:
• A welcoming and forward-thinking school community
• Excellent professional development opportunities
• A well-resourced, modern learning environment
• A stunning location with great work-life balance potential
If you’re a motivated professional seeking a new challenge in a supportive and aspirational setting, we would be delighted to hear from you.
To apply, please contact office@llanfyllin.powys.sch.uk for an application form. For further information, contact us on 01691 648391.
Ysgol Llanfyllin is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people. All appointments are subject to an enhanced DBS check.