Ddydd Mawrth, y 12fed o Orffennaf, hoffem wahodd holl ddarpar ddisgyblion Blwyddyn 12 i’n diwrnod pontio Blwyddyn 11 i Flwyddyn 12. Bydd hwn yn gyfle gwych i fyfyrwyr sy’n bwriadu ymuno â ni ym mis Medi i weld eu ffrindiau eto, cyfarfod staff y chweched dosbarth ac i edrych o gwmpas Canolfan y Chweched.
Dyma’r cynllun ar gyfer y diwrnod :
12.15 yp – Cyfarfod yng Nghaffi Cain, Canolfan y Chweched
12.15 – 1.00yp – cael gweld o gwmpas Canolfan y Chweched a chyfarfod â rhai o’n myfyrwyr cyfredol ynghyd â chyn-fyfyrwyr.
1.00 – 3.00 – Gweithgareddau adeiladu tîm hwyliog gyda ‘Positively You’, un o brif ddarparwyr gweithdai addysgiadol y Deyrnas Unedig.
Rydym yn mawr obeithio y gall eich plentyn ymuno â ni ar y diwrnod hwn ac fe edrychwn ymlaen yn fawr at eu gweld nhw yng Nghanolfan ein Chweched Dosbarth!
On Tuesday 12th July, we would like to invite all prospective Year 12 pupils to our Year 11 to 12 transition day. This will be an excellent opportunity for students who plan to join us in September to see their friends again, meet some of the sixth form staff and have a look around the new Sixth Form Centre.
The plan for the day is as follows-
12.15pm – Meet in Café Cain in the Sixth Form Centre
12.15 – 1.00pm – Tour of the Sixth Form Centre and meet some of our current and old Year 13 students
1.00 – 3.00 – Fun team building activities with ‘Positively You’, one of the UK’s leading providers of educational workshops.
We really hope your child can join us on the day and we very much look forward to seeing them in our Sixth Form Centre!