Annwyl Riant / Gofalwr,

Dyma’ch gwahoddiad CHI!

Dewiswch Eich Dyfodol 2022

Ffair gyrfaoedd rithwir

Dydd Mawrth, 8 Mawrth 2022, 10am-5pm

Ymunwch â ni ar-lein ynghyd â thua 100 o gyflogwyr o bob cwr o Gymru a fydd yn dangos y gyrfaoedd a’r swyddi sydd ar gael mewn amrywiaeth o sectorau. 

Os yw eich plentyn ym mlwyddyn 10 neu uwch, hoffem i chi ymuno â ni ar gyfer ein digwyddiad rhithwir Dewiswch Eich Dyfodol 2022, ble bydd cyfle i chi sgwrsio ag arbenigwyr o’r diwydiant i gael gwybod mwy am sut y gallwch helpu eich plentyn i wneud penderfyniadau gyrfa ar gyfer y dyfodol.

Bydd Dewiswch Eich Dyfodol 2022 yn dod ag amrywiaeth o gyflogwyr o bob cwr o Gymru at ei gilydd a bydd cyfle i chi ymweld â stondinau rhithwir yr arddangoswyr a sgwrsio â chyflogwyr yn y fan a’r lle.

Cynhelir y digwyddiad ar blatfform digidol penodedig lle bydd y cyflogwyr yn darparu gwybodaeth a dolenni i bob stondin a bydd staff wrth law drwy gydol y dydd i roi cyfle i’ch disgyblion ofyn unrhyw gwestiynau

Bydd cyfle i gyfarfod ag oddeutu 100 o arddangoswyr o sectorau blaenoriaeth gan gynnwys deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch, lled-ddargludyddion cyfansawdd, adeiladu, technoleg greadigol a digidol, ynni a’r amgylchedd, cyllid, bwyd, ffermio, gweithgareddau ar y tir, gofal iechyd a chymdeithasol, economi sylfaenol dynol, gwasanaethau cyhoeddus a thwristiaeth a lletygarwch, ac mae’n gyfle delfrydol i drafod ac ymchwilio i ddyfodol eich plentyn.

Bydd y wybodaeth a’r dolenni diweddaraf i ymuno â’r digwyddiad ar gael ar wefan Gyrfa Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â marchnata@gyrfacymru.llyw.cymru


Dear Parent / Carer,

YOU’RE invited!

Choose Your Future 2022

Virtual careers fair

Tuesday 8 March 2022, 10am-5pm

Join us online as we team up with up to 100 employers from across Wales to showcase careers and jobs from a variety of sectors. 

If your child is in year 10 or above, we would like you to join us for our virtual Choose Your Future 2022 event, where you will get the opportunity to chat to industry experts so you can become better informed to help your child make decisions about their future careers.

Choose Your Future 2022 will bring you together with a variety of employers form across Wales where you will have the opportunity to visit virtual exhibitor stands and to chat to employers in real time.

Held on a dedicated digital platform, each stand will have information and links provided by the employer and will be staffed throughout the day to allow your pupils to ask any questions

With the chance to meet around 100 exhibitors from priority sectors including advanced materials and manufacturing, compound semi-conductors, construction, creative and digital technology, energy and the environment, finance, food, farming, land-based, health and social care, human foundational economy, public services and tourism and hospitality, it’s the ideal chance for you to discuss and explore your child’s future.

Updated information and links to join the event will be available on the Careers Wales website.

For more information please email marketing@careerswales.gov.wales