Annwyl rieni/ gwarchodwyr

Dyma neges gan yr Urdd ynglyn a threfniadau gorymdaith Mr Urdd Dydd Sadwrn Gorffennaf 15fed. Yn anffodus oherwydd y tywydd maent wedi gorfod canslo’r orymdaith, ond mae’r gweithgareddau yn parhau yn ysgol Dafydd Llwyd y Drenewydd. Ni fydd staff yno i gwrdd a chi fel y bwriad gwreiddiol, ond mae croeso i chi fynd fel teulu i fod yn ran o’r dathliad.

Yn anffodus gan fod rhagolygon y tywydd yn edrych yn arw iawn ni fydd yr orymdaith yn medru mynd yn ei blaen Dydd Sadwrn a bydd rhaid i ni symud lleoliad y gweithgareddau oedd i fod i ddigwydd yn dilyn hynny. Bydd y gweithgareddau hwyliog, yr adloniant a’r stondinau i gyd yn dal i ddigwydd ond ein bod yn newid y lleoliad o fod yn y Parc yng Nghanol Drenewydd i fod o dan do yn Ysgol Dafydd Llwyd, Y Drenewydd.

  • 11:00 – 3:00 Gweithgareddau hwyliog, adloniant, stondinau ayyb yn Ysgol Dafydd Llwyd, Y Drenewydd. SY16 1JE

Mae’n ddrwg iawn gennom ni am newid y cynlluniau mor agos a hyn i’r digwyddiad ond yn anffodus allwn ni ddim trefnu’r tywydd. Gobeithio y byddwch chi i gyd yn ymuno gyda ni yn Dafydd Llwyd ddydd Sadwrn.

Cofiwch wisgo Coch, Gwyn a Gwyrdd a dewch a baneri lliwgar! Dewch a’ch sŵn, eich lliw a’ch bwrlwm hefyd i ddangos cyffro’r ardal o gael yr Eisteddfod yn ymweld a’r sir. Welwn ni chi yno!! 


Dear parents/ carers,

Below is a message from the Urdd about the parade on Saturday July 15th. Unfortunately they have had to cancel the parade due to the weather. However the entertainment will now be held at Ysgol Dafydd Llwyd in Newtown. Staff will no longer be there to greet you as originally planned, however, you’re welcome to go as a family to be apart of the celebration.

Unfortunately as the weather forecast looks very rough and so the parade will not be able to go ahead. We will also have to move the location of the activities that were due to take place following the parade. The fun activities, entertainment and stalls will all still take place but we are changing the venue from being in the Park in Newtown to being indoors at Ysgol Dafydd Llwyd, Newtown.

• 11:00 – 3:00 Fun activities, entertainment, stalls etc at Ysgol Dafydd Llwyd, Newtown. SY16 1JE

We are very sorry for changing the plans so close to the event but unfortunately we can’t arrange the weather. We hope you will all join us at Dafydd Llwyd on Saturday.

Don’t forget to wear Red, White and Green and bring colourful flags! Also bring your sound, colour and buzz to show the excitement of having the Eisteddfod visit the county. See you there!! 

 Diolch yn fawr/ Thank you