Annwyl rieni, gwarcheidwaid a gofalwyr,

Bydd eich plentyn yn gwneud penderfyniadau pwysig ar hyd ei daith yn y byd addysg, ac efallai ei fod eisoes wedi cyrraedd y cam o gymryd mwy o reolaeth a chyfrifoldeb dros gynllunio ei yrfa yn y dyfodol eisoes.

Gall Gyrfa Cymru eich cefnogi chi a’ch plentyn i wneud y penderfyniadau cywir a fydd yn ei helpu i gyflawni ei uchelgais gyrfa.

Mae hyn yn cynnwys ei gefnogi i: –
Ddewis pa bynciau, cyrsiau a chymwysterau i’w hastudio ym mlynyddoedd 10 ac 11;
Deall mwy am aros yn y byd addysg;
Deall yr offer a’r adnoddau sydd ar gael megis Cwis Buzz, Cwis Paru Swyddi a CrefftGyrfaoedd i gael syniadau am swyddi;
Deall mwy am ddysgu seiliedig ar waith a phrentisiaethau;
Cael gwybod mwy am y byd gwaith;
Gwybod sut i gysylltu â ni i gael rhagor o wybodaeth, cyngor a chymorth.
Edrychwch ar yr adran newydd i rieni ar ein gwefan ble ceir mwy o wybodaeth am ein gwasanaethau, sut rydym yn eu darparu a sut y gallwch gefnogi eich plentyn gyda gwahanol gamau ei daith gyrfa.

Pa fanylion rydym yn eu cadw a pham?
Mae’n rhaid i ni gadw data personol am y cwsmeriaid rydym yn gweithio gyda nhw er mwyn i ni allu darparu ein gwasanaethau i’ch plentyn yn yr ysgol, y chweched dosbarth neu’r coleg.
Gallwn gysylltu â chi neu eich plentyn drwy e-bost, neges destun neu dros y ffôn i roi gwybod mwy i chi am ein gweithgareddau, digwyddiadau neu wybodaeth sy’n berthnasol i addysg eich plentyn a’i yrfa yn y dyfodol.

I gael gwybod mwy am sut rydym yn defnyddio data personol, gallwch ddod o hyd i’n hysbysiad preifatrwydd ar-lein

Os byddai’n well gennych dderbyn copi papur o unrhyw wybodaeth a nodir yma, cysylltwch â mi ar ebost guto.dafydd@gyrfacymru.llyw.cymru neu ffoniwch ni ar 0800 028 4844.

Gyrfa Cymru  

Dear parents, guardians and carers,

Your child will make important decisions throughout their years in education and may already be at the stage where they are taking more control and responsibility for planning their future careers.

Careers Wales can support you and your child in making the right decisions to help them achieve their career ambitions.

This includes supporting them to: –
Choose which subjects, courses and qualifications to study in years 10 and 11
Understand more about continuing in education;
Use tools and resources like the Buzz Quiz, Job Matching Quiz and CareersCraft to generate ideas about jobs;
Understand more about work-based learning and apprenticeship opportunities;
Find out more about the world of work;
Know how to contact us for more information, advice and support.

Head over to the new parents section of our website which explains more about our services, how we deliver them and how you can support your child at different stages of their career journey.

What details do we hold and why?

For us to provide our services to your child in school, sixth form or college, it is necessary for us to hold personal data about the customers we work with.

We may contact you or your child via email, text or phone to let you know more about activities, events or information that is relevant to your child’s education and future career.

To find out more about how we use personal data you can find our privacy notice online

If you’d prefer to receive a printed copy of any of this information, please contact me via email at guto.dafydd@careerswales.gov.wales or call us on 0800 028 4844.

Careers Wales