Hysbyseb Swydd

Mae Corff Llywodraethol Ysgol Llanfyllin am gyflogi athrawes CA2 (Blynyddoedd 3 a 4). Mae’r swydd yn un barhaol gan ddechrau ym mis Medi 2024. Mae’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Rydym yn chwilio am athro sydd:

• yn ymarferydd dosbarth rhagorol a chreadigol gyda gwybodaeth dda o’r cwricwlwm a’r fframwaith sgiliau Llythrennedd, Rhifedd a Digidol,

• â disgwyliadau uchel o ran dysgu ac ymddygiad,

• wedi ymrwymo i gydweithio â’r holl randdeiliaid ac wedi ymrwymo i ethos teulu’r ysgol.

• yn barod i ddangos ymrwymiad i fywyd ehangach yr ysgol a gweithgareddau allgyrsiol,

• yn deall anghenion disgyblion ag ADY ac yn sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu’n llawn er mwyn iddynt allu cyflawni eu potensial.

Croesewir ceisiadau gan ANG.

Gellir cael ffurflenni cais a gwybodaeth bellach gan Jean Brown, Rheolwr Swyddfa – office@llanfyllin.powys.sch.uk (01691 648391)

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau – Dydd Llun, 13eg o Fai, 2024.

Dyddiad llunio rhestr fer – Dydd Mawrth, 14eg o Fai, 2024.

Dyddiad cyfweld – Dydd Llun, 20fed o Fai, 2024.


The Governing Body of Ysgol Llanfyllin is seeking to employ a KS2 (Years 3 & 4) teacher.  The post is a permanent one starting in September 2024.  Welsh language is essential for this post.

We are looking for a teacher who:
• is an excellent and creative classroom practitioner with a good knowledge of the curriculum and the Literacy, Numeracy and Digital skills framework,
• has high expectations of learning and behaviour,
• is committed to collaborative working with all stakeholders and has a commitment to the school’s teulu ethos.
• is willing to show a commitment to the wider life of the school and extracurricular activities,
• understands the needs of pupils with ALN and ensure that their needs are fully met in order that they can fulfil their potential.

Applications from NQTs are welcome.

Application forms and further information can be obtained from Jean Brown, Office Manager – office@llanfyllin.powys.sch.uk (01691 648391)

Closing date for applications – Monday, 13th May, 2024.

Shortlisting date – Tuesday, 14th of May, 2024.

Interview date – Monday, 20th of May, 2024.