Yn dilyn uno Ysgol Gynradd Llanfyllin ac Ysgol Uwchradd Llanfyllin mae Corff Llywodraethol parhaol Ysgol Llanfyllin yn dymuno apwyntio 5 llywodraethwr cymunedol.  Mae rôl llywodraethwr ysgol yn heriol ond yn werth chweil ac mae’r Corff Llywodraethol yn chwilio am ymgeiswyr “sydd yn byw neu yn gweithio yn y gymuned a wasanaethir gan yr ysgol” ac “sydd ag ymroddiad tuag at lywodraeth dda a llwyddiant yr ysgol”.  Disgwylir i’r ymgeiswyr llwyddiannus, wneud cais am wiriad  manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) drwy’r ysgol, cyn cael eu penodi;  ymgymryd â hyfforddiant gorfodol o fewn 12 mis o gael eu hapwyntio; a mynychu  o leiaf 4 cyfarfod bob tymor.

Dylai unigolion sydd am gael eu hystyried anfon e bost at Glerc y Corff Llywodraethol gyda manylion cyswllt ac eglurhad cryno (dim mwy na 200 gair) gan roi’r rhesymau yr hoffent gael eu hystyried.  Ar ôl ei dderbyn bydd y Clerc yn anfon matrics sgiliau y bydd angen ei gwblhau cyn Tachwedd 30ain 2020

Am ragor o wybodaeth am rôl llywodraethwr ysgol neu i wneud cais cysylltwch â’r Clerc,  jennifer.wilde@powys.gov.uk


Following the amalgamation of Ysgol Gynradd Llanfyllin and Llanfyllin High School the permanent Governing Body of Ysgol Llanfyllin wishes to appoint 5 community governors.  The role of a school governor is challenging but rewarding and the Governing Body is seeking candidates “who live or work in the community served by the School” and “who are committed to the good government and success of the School.”.  Successful candidates will be expected, through the School, to apply for an enhanced DBS, before appointment; undertake mandatory training, within 12 months of appointment; and attend a minimum of 4 meetings per term.

Individuals who wish to be considered should email the Clerk to the Governing Body with contact details and a brief explanation (no more than 200 words) giving the reasons they wish to be considered.  Upon receipt the Clerk will forward a skills matrix that will need to be completed before 30 Nov 2020.

For further information about the role of a school governor or to apply please contact the Clerk, jennifer.wilde@powys.gov.uk