Annwyl rieni a gofalwyr,
Rydym ar hyn o bryd yn profi lefel uchel o absenoldeb oherwydd salwch yn ein cymuned ysgol. Y prif salwch sy’n effeithio ar ddisgyblion ac aelodau staff yw dolur rhydd a/neu chwydu, ac anhwylderau anadlol acíwt megis COVID-19 a’r ffliw.
Hoffem atgoffa pawb o ganllawiau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch faint o amser y dylai plant aros gartref os ydynt yn sâl, er mwyn helpu i atal lledaeniad haint:
Cyfnod eithrio ar gyfer heintiau cyffredin (Iechyd Cyhoeddus Cymru)
Diolch am eich cefnogaeth barhaus wrth ein helpu i gadw ein cymuned ysgol yn iach.
Yn gywir,
Dewi Owen
Pennaeth
Dear Parents and Carers,
We are currently experiencing a high level of sickness absence within our school community. The main illnesses affecting pupils and staff are diarrhoea and/or vomiting, and acute respiratory illnesses such as COVID-19 and influenza (flu).
Please take a moment to review the latest Public Health Wales guidance on how long children should remain at home when unwell, to help prevent the spread of infection:
Exclusion period for common infections (Public Health Wales)
Thank you for your continued support in helping us keep our school community healthy.
Kind regards,
Dewi Owen
Headteacher
