Yn dilyn arolygiad o’r ysgol ym mis Mawrth, mae adroddiad Estyn ar gyfer Ysgol Llanfyllin yn cael ei gyhoeddi heddiw.
Mae llawer i’w ddathlu drwy gydol yr adroddiad, yn enwedig mae Estyn yn cydnabod cryfder y gofal, y cymorth a’r arweiniad a gynigir i ddisgyblion yn Ysgol Llanfyllin:
‘Mae ethos teuluol Ysgol Llanfyllin wrth wraidd pob agwedd ar ei darpariaeth les. Mae staff yn cydweithio â’i gilydd i sefydlu dealltwriaeth ddofn o anghenion lles disgyblion, yn enwedig y rhai mwyaf bregus a difreintiedig’

Dyma’r arolygiad cyntaf o Ysgol Llanfyllin fel ysgol pob oed a dylai cymuned yr ysgol gyfan fod yn falch iawn o’r hyn sydd wedi’i gyflawni ers ei sefydlu yn 2020. Ni fyddwch yn synnu o wybod ein bod gyda’n gilydd yn parhau’n uchelgeisiol ar gyfer gwelliant pellach ac y byddwn yn gweithio’n agos gyda’r awdurdod lleol i fynd i’r afael ag unrhyw argymhellion yn yr adroddiad.

Mae copi o’r adroddiad llawn a’r crynodeb ar gael ar wefan Estyn Ysgol Llanfyllin | Estyn (llyw.cymru), neu fel copi papur gan yr ysgol ar gais. Gobeithiaf y byddwch yn darllen yr adroddiad llawn sy’n manylu ar y llu o feysydd llwyddiannus yng ngwaith yr ysgol, ac y byddwch mor falch â ni gyda’r canlyniad.


Following the inspection of the school in March, the Estyn report for Ysgol Llanfyllin is published today.
There is much to celebrate throughout the report, in particular Estyn recognise the strength of the care, support and guidance offered to pupils at Ysgol Llanfyllin:

‘The ‘teulu’ (family) ethos of Ysgol Llanfyllin is central to all aspects of its well-being provision. Staff work collaboratively to establish a deep understanding of the well-being needs of pupils, particularly those who are most vulnerable and disadvantaged’
This is the first inspection of Ysgol Llanfyllin as an all age school and the whole school community should be very proud of what has been achieved since its inception in 2020. You will not be surprised to know that we collectively remain ambitious for further improvement and will work closely with the local authority to address any recommendations contained in the report.

A copy of the full report and summary is available on Estyn’s website Ysgol Llanfyllin | Estyn (gov.wales) , or as a paper copy from the school on request. I hope that you will read the full report which details the many successful areas of the work of the school, and that you will be as delighted as we are with the outcome.