Yn agoriad Ysgol Uwchradd gyntaf Llanfyllin yn 1900, amddiffynnodd y rheithor lleol addysg yn erbyn y rhai oedd yn gwrthwynebu ei ledaeniad bryd hynny: “Roedd teimladau o’r fath, yn ei farn ef, yn hollol anghywir , oni bai bod anwybodaeth yn well na gwybodaeth, a thywyllwch i oleuni .” Mae From Darkness to Light bellach wedi dod yn deitl llyfr a ysgrifennwyd ganRichard Kretchmer a Pauline Page-Jones am ysgolion Llanfyllin – o’r amseroedd cynharaf hyd at greu Ysgol Llanfyllin yn 2020.

Yr ysgogiad i’r llyfr hwn oedd gwahoddiad gan y Pennaeth a Llywodraethwyr Ysgol Llanfyllin a oedd o’r farn y byddai adeg cau ysgolion arwahan Cynradd ac Uwchradd    yn adeg dda i edrych ar ddatblygiad addysg yn Llanfyllin.  Mae llawer o’r stori yn cael ei hadrodd gan gyn blant ac athrawon o’r ysgolion ac mae eu lleisiau wedi eu plethu  a throeon trwstan newidiadau cymdeithasol, gwleidyddol ac addysgol sydd wedi effeithio ar bob un ohonom.  Mae hyn yn cynnwys effaith leol digwyddiadau enfawr fel y ddau Ryfel Byd.

Llyfr sy’n llawn hanes a ffotograffau yw  From Darkness to Light  a bydd yn gwneud anrheg Nadolig perffaith i unrhyw un a aeth i ysgol yn Llanfyllin, neu sydd â diddordeb yn hanes Llanfyllin  neu sydd eisiau prawf mae addysg yw sylfaen datblygiad dynol.  

Mae’r llyfr ar gael i’w brynu gan Pauline Page-Jones, (pauline@page-jones.com) Pendyffryn, Bachie Road, Llanfyllin SY22 5LA . Ffôn 07989766220.

Bydd y llyfr hefyd ar werth ym Marchnadoedd Nadolig Llanfyllin yn y Sefydliad Cyhoeddus ar Ragfyr 4ydd, 11eg a’r 18fed a hefyd o Lyfrgell Llanfyllin (gweler y wefan am oriau agor).

Pris y llyfr yw £12.95 ac os oes angen gellir ei bostio i unrhyw gyfeiriad yn y DU am £17.00 yn cynnwys cludiant.


LAUNCH OF NEW BOOK ABOUT LLANFYLLIN SCHOOLS

At the opening of Llanfyllin’s first secondary school in 1900, the local rector defended education against those who opposed its spread at that time: “Such sentiments, in his opinion, were radically wrong, unless ignorance was preferable to knowledge, and darkness to light.” From Darkness to Lighthas now become the title of a book written by Richard Kretchmer and Pauline Page-Jones about the Llanfyllin schools – from the earliest times to the creation of Ysgol Llanfyllin in 2020.

The impetus for this book was an invitation from the Headteacher and Governors of Ysgol Llanfyllin who thought the closure of separate Primary and Secondary Schools would be a good time to look at the development of education in Llanfyllin. Much of the story is told by former children and teachers at the schools and their voices are woven in with the twists and turns of social, political and educational changes that have affected us all. This includes the local impact of huge events like the two World Wars.

From Darkness to Light is a book full of history and photographs and will make an ideal Christmas present for anyone who went to school in Llanfyllin, is interested in the history of Llanfyllin or who wants proof that education is the foundation of human development.

The book is available to buy from Pauline Page-Jones, (pauline@page-jones.com) Pendyffryn, Bachie Road, Llanfyllin SY22 5LA Tel 07989766220.

The book will also be for sale at the Public Institute at the Llanfyllin Christmas Markets on December 4th, 11th and 18th and also from Llanfyllin Library (see web site for opening hours).

The book price is £12.95 and if needed can be posted to any address in the UK price £17.00 which includes p&p.